Clwb rygbi'n gofyn i'r heddlu ymchwilio i hiliaeth
- Cyhoeddwyd
Mae clwb rygbi yn ne Cymru wedi gofyn i'r heddlu ymchwilio i sylwadau hiliol a homoffobaidd honedig gan chwaraewyr tuag at un o'u cyd-chwaraewyr.
Mae Clwb Rygbi Pontarddulais hefyd wedi adrodd y sylwadau "annerbyniol" gafodd eu gwneud tuag at George Mbofana ar y cyfryngau cymdeithasol i Undeb Rygbi Cymru.
Dywedodd y clwb y byddan nhw yn cyd-weithio â'r ymchwiliadau.
Ychwanegodd y clwb fod y chwaraewyr dan sylw wedi cael eu gwahardd nes y bydd yr ymchwiliadau'n dod i ben.
'Ein hymateb yn wallus'
Dywedodd y clwb mewn datganiad: "Mae'n amlwg bod gennym waith i'w wneud fel clwb.
"Fel swyddogion a'r pwyllgor rheoli, ry'n ni nawr yn gwybod bod ein hymateb i ddechrau yn wallus - nid dyma'r amser i fod yn amddiffynnol a ry'n ni wir yn ymddiheuro am achosi unrhyw ofid pellach.
"Mae gennym gyfrifoldeb i'n chwaraewyr a'n cymuned i sicrhau bod ein clwb yn le diogel a chroesawgar, a dros y dyddiau nesaf byddwn yn ceisio cael arweiniad gan URC ac eraill ynglŷn â sut allwn ni weithredu'n effeithiol."
Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod yn trafod gyda'r achwynydd ynglŷn â sut i fynd â'r mater ymhellach.
Ychwanegodd Undeb Rygbi Cymru nad oes "unrhyw le am hiliaeth o unrhyw fath yn rygbi'r undeb", a'u bod mewn cysylltiad â'r clwb ynglŷn â'u hymchwiliad mewnol.