Tynnu nôl cais i godi archfarchnad ger Castell Conwy

  • Cyhoeddwyd
Safle ger Castell Conwy
Disgrifiad o’r llun,

Bwriad Co-op oedd codi'r archfarchnad ar dir sy'n agos at furiau Castell Conwy

Mae cais dadleuol i godi archfarchnad Co-op ger Castell Conwy wedi cael ei dynnu 'nôl gan y datblygwr.

Roedd 'na wrthwynebiad chwyrn i'r cynllun yn lleol, gyda Chyngor Tref Conwy'n dweud y byddai'r datblygiad yn cael effaith negyddol ar yr olygfa o'r castell o gyfeiriad Gyffin.

Mae'r castell yn denu degau o filoedd o ymwelwyr bob blwyddyn ac yn safle treftadaeth y byd UNESCO.

Roedd y cais yn cynnwys codi archfarchnad ar ddarn o dir lle'r oedd garej yn arfer sefyll, ar y ffordd allan o Gonwy i gyfeiriad Gyffin.

Partneriaeth Buddsoddi Llandudno oedd y tu ôl i gynlluniau'r archfarchnad.