Protestiadau 'anghyfreithlon' Cymru yn erbyn hiliaeth
- Cyhoeddwyd

Roedd cannoedd o bobl yn protestio ym Mharc Biwt, Caerdydd ddydd Sadwrn
Mae pobl yng Nghymru wedi ymuno ag ymgyrchwyr ar draws y byd wrth gynnal protestiadau yn erbyn hiliaeth yn sgil marwolaeth George Floyd yn yr Unol Daleithiau.
Fe gasglodd pobl yng Nghaerdydd, Bangor, Caerffili, Abertawe a Dinbych ddydd Sadwrn fel rhan o ymgyrch Black Lives Matter.
Mae'r heddlu'n dweud bod y protestiadau yn "anghyfreithlon" o dan gyfreithiau cyfyngiadau coronafeirws.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Y cyngor swyddogol yw i osgoi casglu mewn grwpiau, gyda'r Ysgrifennydd Cartref Priti Patel yn dweud ei fod "er ein budd ni oll."
Fe ddechreuodd y protestiadau yn dilyn marwolaeth George Floyd, 46, wrth iddo gael ei arestio ym Minneapolis ar 25 Mai.

Y cyngor swyddogol gan y llywodraeth yw i beidio casglu mewn grwpiau
Roedd fideo o'r digwyddiad yn ei ddangos yn dweud nad oedd yn gallu anadlu wrth i swyddog heddlu benlinio ar ei wddf ar ôl iddo gael ei arestio gan bedwar plismon.
Mae'r pedwar heddwas bellach wedi cael eu cyhuddo mewn cysylltiad â'r farwolaeth, sydd wedi sbarduno dyddiau o brotestiadau yn yr Unol Daleithiau a thros y byd.

Mae heddwas wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth yn achos marwolaeth George Floyd
Mae miloedd wedi casglu yn Llundain a Manceinion, tra bo cannoedd wedi mynychu protestiadau ym Mharc Biwt, Castell Caerffili ac ar stryd fawr Bangor.
Mae nifer o'r protestwyr yn gwisgo mygydau a menig er mwyn ceisio atal lledaeniad coronafeirws.
Diddymu gwaharddiad yn Sydney
Yn Sydney, cafodd gwaharddiad yn erbyn protest y mudiad Black Lives Matter ei ddiddymu ar y funud olaf.
Daeth degau o filoedd o bobl at ei gilydd led led Awstralia i gefnogi'r mudiad, serch rhybuddion swyddogion am dorri cyfreithiau yn ymwneud a coronafeirws.
Mae rhai o'r trefnwyr wedi cael eu dirwyo am dorri rheolau iechyd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd1 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd31 Mai 2020