Arestio gyrrwr wedi anaf 'difrifol' i ferch tair oed

  • Cyhoeddwyd
PencraigFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r heddlu'n apelio am dystion i'r digwyddiad

Cafodd dyn ei arestio wedi i ferch fach tair oed gael anafiadau difrifol mewn gwrthdrawiad yn Llangefni ddydd Sul.

Mae'r ferch yn yr ysbyty wedi'r gwrthdrawiad ar stad Pencraig.

Cafodd yr heddlu eu galw i'r safle am 16:52 i wrthdrawiad rhwng car Ford Focus du a'r plentyn, ac roedd adroddiad bod y gyrrwr wedi rhedeg o'r safle.

Cafodd y ferch ei chludo i Ysbyty Plant Alder Hey yn Lerpwl mewn hofrennydd gydag anafiadau i'w phen.

Daeth yr heddlu o hyd i'r gyrrwr - dyn lleol 19 oed - yng nghanol tref Llangefni ychydig yn ddiweddarach.

Fe gafodd ei arestio yno ar amheuaeth o amryw droseddau, gan gynnwys gyrru dan ddylanwad cyffuriau a gyrru heb drwydded nac yswiriant.

Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth wrth i'r ymchwiliad barhau.

Dywedodd yr heddlu nad yw anafiadau'r ferch fach yn peryglu ei bywyd, ond eu bod yn ddifrifol.

Maen nhw hefyd yn apelio am wybodaeth am y gwrthdrawiad.

Dylai unrhyw un a welodd y car yn cael ei yrru cyn y gwrthdrawiad, neu sydd â gwybodaeth berthnasol arall, ffonio'r Uned Blismona Ffyrdd yn Llanelwy ar 101 gan ddyfynnu'r cyfeirnod Y081556.