Diffyg cefnogaeth i bobl ddall yn ystod y pandemig
- Cyhoeddwyd
Mae pobl ddall wedi dioddef achosion o ymosod geiriol am fethu dilyn rheolau ymbellhau cymdeithasol.
Maen nhw hefyd yn dweud bod sicrhau cefnogaeth a chymorth wedi profi'n anodd yn ystod y pandemig.
Nawr mae elusen yn galw ar wasanaethau iechyd a siopau i sicrhau bod pobl â nam ar eu golwg yn cael yr help sydd ei angen arnyn nhw wrth ddefnyddio eu gwasanaethau.
Mae un o bob pedwar person sydd wedi colli eu golwg yn cael trafferth dilyn rheolau ar ymbellhau cymdeithasol, yn ôl arolwg o 325 o bobl gan elusen Fight for Sight.
Roedd dros hanner y rhai a holwyd yn dweud bod mynediad at fwyd a gwasanaethau eraill wedi gwaethygu yn ystod y cyfnod clo.
'Pobl yn llai goddefgar'
Dywedodd Angharad Paget Jones ei bod ond yn teimlo'n ddigon hyderus i adael ei chartref ym Mhort Talbot os yw ei chi tywys, Tudor, gyda hi.
Ond yn ystod y cyfnod clo mae pobl wedi bod yn llai goddefgar o'i hanabledd, meddai, ac mae mynd i siopa yn brofiad dychrynllyd.
"Mae rhai wedi gweiddi arna i mewn siopau am fod yn rhy agos at eraill pan maen nhw'n gallu gweld fod ci tywys gen i. Dwi ddim yn eu gweld nhw," meddai.
"Mae Tudor wedi cael ei hyfforddi i fynd â fi at ddrws yr archfarchnad - dwi ddim yn gallu gweld os oes ciw ai peidio, a dwi'n cael pobl yn gweiddi arna i am beidio ciwio.
"Dwi'n lwcus nad ydw i'n groen-denau, ond pe bai pobl yn dweud eu bod nhw yno, neu'n dweud wrtha i bod 'na giw - dyw hi ddim yn cymryd dwy eiliad i adael i mi wybod.
"Mae gen i lot o help - mae ffrindiau a theulu o fy nghwmpas i, ond does gan rai pobl ddim mo'r help yna ac mae'n rhaid iddyn nhw fynd i'r llefydd hyn ar ben eu hunain.
"Os yw eu hyder yn cael cnoc fydden nhw ddim eisiau mynd allan."
Dywedodd prif weithredwr Fight for Sight, Sherine Krause bod angen mwy o gyngor i siopau ar fesurau ymbellhau cymdeithasol "er mwyn sicrhau nad yw anghenion pobl â nam golwg yn cael eu hanghofio".