60 i golli eu gwaith yn Llan-rhos ger Llandudno
- Cyhoeddwyd
Bydd 60 o staff cwmni geowyddonol CGG Robertson yn Llan-rhos ger Llandudno yn colli eu gwaith, medd undeb Unite Cymru.
Dywed Daryl Williams, swyddog rhanbarthol Unite, bod y staff sy'n gweithio i'r cwmni ymgynghori ar faterion nwy ac olew wedi cael gwybod brynhawn Mawrth.
Wrth ymateb dywedodd Mr Williams bod y newyddion yn "ergyd fawr i ogledd orllewin Cymru, ardal sy'n dioddef eisoes o ganlyniad effaith haint Covid-19 ar y diwydiant hamdden a thwristiaeth".
"Mae rhain yn swyddi sy'n gofyn am sgiliau arbenigol a dyw hi ddim yn hawdd cael swyddi eraill yn eu lle.
"Ry'n yn gofyn felly i'r cwmni ailfeddwl ac i gydweithio â'r undeb er mwyn canfod ffordd drwy'r argyfwng. Bydd yr undeb yn cynnig cefnogaeth yn ystod y cyfnod anodd hwn."
Mae'r undeb yn amcangyfrif bod cyfanswm o rhwng 180 a 200 o weithwyr yn cael eu cyflogi ar y safle.
Y swyddi sy'n debygol o gael eu colli yw rhai gwyddonol a thechnegol.
Amser anodd
Mae'r safle yn Llan-rhos yn rhan o gwmni ehangach ac ar eu gwefan maent yn nodi "eu bod wedi'u hymrwymo i sicrhau bod adnoddau naturiol yn cael eu datblygu'n gynaliadwy ar draws y byd".
Dywed undebau bod y cwmni wedi dweud wrth staff eu bod yn cychwyn ar gyfnod ymgynghorol 30 diwrnod yn dilyn y cyhoeddiad am y swyddi.
Mae cais wedi cael ei wneud i'r cwmni am sylw ond maent yn nodi mai cwymp mewn pris olew sy'n gyfrifol am eu penderfyniad.
Ychwanegodd Daryl Williams bod swyddi wedi cael eu colli o'r safle o'r blaen pan oedd y diwydiant olew yn crebachu ond "bod y cyhoeddiad diweddaraf yn sioc. Mae hyn yn fwy na'r hyn ry'n wedi ei weld o'r blaen".
Mae Mr Williams yn credu y bydd y swyddi cyntaf yn debygol o gael eu colli erbyn diwedd Gorffennaf ond mae'n ychwanegu mai'r broses ymgynghorol fydd yn penderfynu pa swyddi fydd yn diflannu.
"Mae'n mynd i fod yn amser anodd i'r holl weithwyr," ychwanegodd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mai 2020
- Cyhoeddwyd16 Mai 2014