Protest yn erbyn cau ffatri ym Mhenygroes

  • Cyhoeddwyd
protest

Daeth tua 150 o bobl at ei gilydd ym Mhenygroes, Gwynedd ddydd Iau i brotestio yn erbyn cau ffatri bapur.

Mae 94 o swyddi yn y fantol wedi i ffatri Northwood Hygiene Products gyhoeddi fis diwethaf eu bod yn cau'r ffati, gan roi'r bai ar y pandemig coronafeirws.

Bu'r cwmni'n cynnal trafodaethau gydag undebau ddydd Iau am y bwriad i gau'r ffatri.

Pan ddaeth y cyhoeddiad ar 26 Mai, dywedodd y cwmni fod y penderfyniad o ganlyniad i "grebachu yn y galw yn y farchnad oherwydd Covid-19".

Aeth y cwmni ymlaen i ddweud bod "cwymp sylweddol yn y gwerthiant, a rhagolygon gwerthiant i'r dyfodol, wedi arwain at y penderfyniad anodd yma".

Mae gwaith y cwmni yn eu ffatrïoedd eraill yn Telford, Oldham, Birmingham, Caerhirfryn a Bromsgrove yn parhau.