Her bersonol Dic y Rhedwr wedi siom gorfod gohirio Sialens
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-brifathro a rhedwr profiadol o Geredigion yn ceisio cyflawni her o redeg mil o filltiroedd yn ystod y cyfnod clo, er mwyn codi arian ar gyfer Ysbyty Bronglais.
Mae Dic Evans - neu Dic y Rhedwr, fel mae llawer yn ei adnabod - yn 73 oed ac yn ceisio rhedeg dros ddeng milltir bob dydd er mwyn cwblhau'r her cyn diwedd y mis.
Mae eisoes wedi codi dros ddwywaith ei darged o £1,000, dolen allanol tuag at Uned Chemotherapi Ysbyty Bronglais, gan gyrraedd dros £2500 erbyn hyn.
Mae Dic, sy'n byw yn Nyffryn Ystwyth, yn gyn-brifathro ysgol ym Mhonterwyd ac yn hyfforddwr i nifer o redwyr. Mae hefyd wedi cynrychioli Prydain a Chymru sawl gwaith, gan redeg dros ei wlad mor ddiweddar â mis Tachwedd y llynedd.
Mae wedi cwblhau marathon llawn mewn amser o 2 awr 17 munud, ac ers 17 o flynyddoedd mae wedi trefnu rasys Sialens y Barcud Coch, sy'n digwydd ger Pontarfynach bob blwyddyn ers 2003 ym mis Mai.
Mil o filltiroedd mewn tri mis
Fel arfer mae arian yn cael ei godi ar gyfer Ysbyty Bronglais fel rhan o'r Sialens, ond gan nad oedd modd cynnal y digwyddiad eleni oherwydd cyfyngiadau Covid-19 penderfynodd Dic osod her i'w hun i redeg 1,000 o filltiroedd dros gyfnod o ddechrau'r cyfnod clo hyd at ddiwedd Mehefin.
"Bob blwyddyn 'y ni'n codi arian i'r ysbyty, y gwahanol adrannau," meddai Dic. "Ni 'di codi i'r ffisiotherapi, adran y galon, a llynedd nethon ni godi ar gyfer yr uned chemotherapi yn Bronglais, ac o'n ni'n mynd i neud hynny eleni hefyd.
"Oherwydd bod y ras ddim m'lan, o'n i'n teimlo bod yr ysbyty'n mynd i golli allan, ac i'n ni'n meddwl beth allen ni wneud. Felly nes i osod sialens i'n hunan i redeg mil o filltiroedd o'r diwrnod dywedodd Boris [Johnson, Prif Weinidog y DU] bo ni ddim yn cael mynd allan - felly wythnos ola mis Mawrth - a bydda i'n gobeithio cwblhau'r mil erbyn diwedd mis Mehefin.
"Ar hyn o bryd, dwi on target!"
Dywedodd ei fod yn eithriadol o ddiolchgar i bobl am gefnogi ei ymdrech, a'r ffaith y bydd yr arian yn mynd i'r ysbyty lleol.
"Dwi'n meddwl bod hynny'n hollbwysig, achos ma rhai pobl yn Aberystwyth sy'n diodde' o ganser yn gorfod mynd i Abertawe i gael e, ac mae rhai'n gorfod mynd pum niwrnod yr wythnos i gael triniaeth. Ac mae uned ar gael yn Aberystwyth sy'n cael ei redeg gan ddoctor.
"Ma partner fi wedi diodde' o canser yn y flwyddyn ddiwethaf, felly dwi'n gw'bod pa mor dda ma' nhw wedi edrych ar ei hôl hi."
'Enwog' yn y byd rhedeg
Dywedodd Owain Schiavone, sy'n cael ei hyfforddi gan Dic: "Ro'n i wastad yn gwybod am Dic Rhedwr, roedd pawb yn sôn amdano fe.
"Mae ei hanes yn un hir - dwi'n meddwl fy mod i'n iawn I ddweud iddo gynrychioli Cymru am y tro cyntaf ym 1965, a'i fod e wedi cynrychioli Cymru bob blwyddyn ers hynny mewn rhyw ffurf - boed yn rhedwr ieuenctid neu'n rhedwr hŷn erbyn hyn, ac mewn pob math o gamp o redeg ffordd i redeg traws gwlad a rhedeg mynydd yn fwy diweddar.
"Dyw e ddim yn hoffi brolio y pethau hyn ond ro'n i'n ymwybodol ei fod e wedi mynd i'r Eidal y llynedd i rasio ym mhencampwriaethau rhedeg mynydd y byd a wnaeth e ennill medal arian f'yna fel rhan o dîm Cymru.
"Bob tro bydda i'n mynd i ras yn rhywle a phobl yn holi fi o le rydw i'n dod a phan ddweda i Aberystwyth mae un o'r swyddogion yn dweud "Dic Evans territory".
"Mae e'n enwog yn y byd rhedeg yn sicr."