Peintio swastika ar garej teulu du yng Ngwynedd

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Margaret Ogunbanwo a'i mab Toda yn trafod y profiad o ddarganfod y symbol Natsiaidd

Mae teulu o Benygroes yng Ngwynedd wedi disgrifio'r sioc o ddarganfod fod rhywun wedi peintio arwydd swastika ar ddrws eu garej.

Wrth siarad gyda BBC Cymru, dywedodd Margaret Ogunbanwo ei bod yn credu fod y teulu wedi ei dargedu am eu bod yn ddu.

Dywedodd Ms Ogunbanwo na fyddai'n glanhau'r symbol yn syth gan ei bod am i bobl weld yr hyn oedd wedi digwydd.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru fod swyddogion yn ymchwilio i'r digwyddiad, ac yn gofyn am gymorth y cyhoedd.

Mae swyddogion yn credu fod y graffiti wedi ei ysgrifennu am oddeutu 02:00 fore dydd Sadwrn, ac yn gofyn i unrhyw un allai fod o gymorth i gysylltu gyda PC Mathew Tapping yng ngorsaf yr heddlu ym Mhenygroes gan ddefnyddio'r cyfeirnod Y084193.

'Mewn sioc'

"Roeddwn mewn sioc, a fe feddyliais i 'pam? Pam ar yr adeg yma?' meddai Ms Ogunbanwo.

"Mae rhywun yn ceisio gwneud datganiad ond rwy'n credu fod nawr yn amser gwael iawn i wneud hyn o achos yr holl ymgyrch 'Black Lives Matter'.

"Yr ail beth nes i feddwl oedd eu bod wedi fandaleiddio fy eiddo a maen nhw'n disgwyl i mi ei lanhau - dydy hyn ddim digon da."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Ms Ogunbanwo a'i theulu wedi byw yn hapus ym Mhenygroes ers blynyddoedd

Mae'r teulu wedi byw ym Mhenygroes ers 13 o flynyddoedd, ac er eu bod wedi dioddef hiliaeth, maen nhw'n dweud fod yr achosion yn rhai prin.

"A dweud y gwir mae'n fy ngwneud i deimlo'n drist achos rydym yn hapus yn y pentref, rydym yn rhan o'r pentref, mae fy nhad wedi ei gladdu yn y fynwent leol - dyma fy mywyd.

"Rydym wedi trafod y peth fel teulu ac rydym yn credu fod gan bobl eu barn a falle eu bod yn credu fod yr holl ymgyrch 'Black Lives Matter' yn ormod a dyma'r unig ffordd y maen nhw'n gallu teimlo eu bod yn gallu gwyntyllu hyn, i'r unig bobl ddu sydd yn yr ardal."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed y teulu fod achosion o hiliaeth wedi bod yn brin yn yr ardal ar hyd y blynyddoedd

Ychwanegodd ei bod yn credu mae'r ffordd ymlaen oedd i addysgu pobl, yn enwedig y genhedlaeth nesaf.

Dywed y teulu y bydd y graffiti yn aros ar y garej am gyfnod er mwyn dangos i bobl leol a phobl sydd yn gyrru heibio fod casineb yn dal i fodoli yn y gymdeithas.

"Os byddwn yn ei olchi i ffwrdd, mae fel petai na wnaeth ddigwydd a rwyf i am i bobl ei gofio", meddai.

'Sefyll mewn undod'

Wrth ymateb i'r digwyddiad, dywedodd Hywel Williams, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Arfon:

"Rwy'n sefyll mewn undod â'r teulu ac yn ategu'r feirniadaeth gryf gan y gymuned leol.

'Rwy'n gwybod bod pobl Penygroes ac Arfon wedi eu ffieiddio gan y weithred afiach hon. Ond bydd yn cryfhau ein pendantrwydd i sefyll gyda'n gilydd yn erbyn hurtrwydd ffiaidd hiliaeth.

"Targedwyd ein swyddfa â graffiti hiliol y llynedd. Roedd yn annifyr ac yn annymunol. Ond mae hyn gymaint yn waeth, gan ei fod wedi ei dargedu'n bersonol at gartref rhywun.

Disgrifiad o’r llun,

Yr Aelod Seneddol lleol Hywel Williams

Ychwanegodd: "Mae gennym gymuned gref yma yn Arfon, wedi'i chyfoethogi gan amrywiaeth a'n traddodiad o sefyll gyda'n gilydd yng ngwyneb gwahaniaethu.

'Bydd pwy bynnag a wnaeth hyn yn dysgu'n eithaf cyflym bod cymdeithas oddefgar yn gryfach o lawer na'r anhrefn rhanedig y maent yn dyheu amdano."