Pryder fod morfil aeth i drafferthion wedi marw
- Cyhoeddwyd
Mae'n ymddangos fod llo morfil ifanc aeth i drafferthion yn aber yr afon Dyfrdwy dros y penwythnos wedi marw.
Aeth i drafferthion yn aber yr afon am y tro cyntaf ddydd Gwener, cyn mynd yn sownd yn yr un lleoliad eto ddydd Sadwrn.
Roedd na obaith fod y morfil 30 troedfedd o hyd wedi dychwelyd i'r môr pan welwyd o'n nofio yno bnawn ddoe.
Ond erbyn bore dydd Sul fe gafwyd hyd i'r anifail yn ddiymadferth a dim arwydd ei fod yn fyw.
Y gred yw mai dim ond chwech neu saith mis oed oedd y llo morfil, ac roedd swyddogion o elusen British Divers Marine Life Rescue (BDMLR) wedi bod yn asesu ei gyflwr yn gyson.
Mewn datganiad fore dydd Sul, dywedodd yr elusen fod y morfil wedi mynd yn sownd eto nos Sadwrn ar aber yr afon Dyfrdwy ond roedd mewn lleoliad rhy beryglus i anfon unrhyw un i asesu ei gyflwr.
Mae Gwylwyr y Glannau wedi bod yn cadw golwg arno o bell fore dydd Sul drwy ddefnyddio drôn, ond nid yw'n ymddangos fod y morfil yn fyw.
Galwodd yr elusen ar bobl i beidio a mentro i'r ardal i edrych arno, gan bwysleisio fod cyfyngiadau teithio Covid-19 yn parhau mewn grym.
Mae swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru yn ceisio symud y corff a'r gobaith yw y bydd archwiliad post mortem yn cael ei gynnal arno yn y dyfodol agos.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2019