'Disgwyl cyhoeddiad am addoldai Cymru yn fuan'

  • Cyhoeddwyd
Aled Edwards
Disgrifiad o’r llun,

Mae Aled Edwards yn aelod o'r tasglu sy'n penderfynu ar agor addoldai yng Nghymru

"Dwi'n lled amau y bydd cyhoeddiad yn weddol fuan ar agor addoldai yng Nghymru," medd y Parchedig Aled Edwards, Prif Weithredwr Cytûn, sydd hefyd yn aelod o'r tasglu sydd wedi bod yn cynghori Llywodraeth Cymru ar y mater.

Bydd rhai addoldai yn Lloegr yn agor ddydd Llun ond dim ond ar gyfer unigolion i fynd i weddïo neu ymweld - fydd yna ddim hawl cynnal digwyddiadau torfol.

Yn ôl Aled Edwards, dyma sy'n debygol o ddigwydd yng Nghymru i ddechrau.

"Rhaid cofio," meddai wrth siarad ar raglen Bwrw Golwg, "nad yw pob addoldy yn agor yn Lloegr.

"Yn unol â system goleuadau traffig Llywodraeth Cymru, yn y lliw coch fyddwn ni ar y dechrau.

"Mae'r tasglu wedi bod yn meddwl yn ofalus iawn sut mae agor addoldai mewn ffordd ddiogel. Yng Nghymru hefyd, yn aml, mae ysgol feithrin neu ddarpariaeth i blant yn gysylltiedig â'r adeilad ac mae'n ymateb ni yng Nghymru yn gorfod bod yn fwy cwmpasog.

"Mae trafodaethau dwys iawn wedi bod yn cael eu cynnal ers 29 Ebrill ar sut a phryd i agor yr addoldai mewn ffordd ddiogel."

Profiadau'r Cymry yn Lloegr

Dywed y Parchedig Ddr D Ben Rees, gweinidog Capel Bethel, Ffordd Heathfield yn Lerpwl nad yw'n rhagweld y bydd y capel yn cael ei ddefnyddio gan nad yw mynd i weddïo i addoldy yn "draddodiadol i ni fel Cymry anghydffurfiol".

"Fedrwn ni weddïo adref - mae Iesu wedi dweud wrthon ni i fynd i ystafell o'r golwg, cau y drws, a gweddïo ar dy Dad sydd yn y nefoedd.

"Ond wedi dweud hynny - y mwyaf 'dan ni'n aros adref, y mwyaf 'dan ni'n hiraethu am fynd nôl i'r cynteddoedd - ond dymuno cyfarfod â phobl ry'n ni a dyw hynny wrth, gwrs, ddim yn bosib hyd yma."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r addoldai sy'n agor yn Lloegr ddydd Llun yn gorfod ufuddhau i ofynion ymbellhau cymdeithasol

I'r Parchedig Ddr Jeffrey John, Deon Eglwys Gadeiriol St Albans mae agor yr eglwys ddydd Llun yn gam ymlaen.

"Ry'n wedi sicrhau y bydd hi'n bosib i unigolion gerdded o gwmpas yr adeilad a gweddïo," meddai.

"Dwi'n credu bod eglwys hynafol yn gwneud y tragwyddol yn bresennol lle mae modd teimlo presenoldeb Duw.

"Mae lluniau, y cerfluniau a chanhwyllau sydd 'dach chi yn yr eglwys yn helpu chi i weddïo - ac yn y traddodiad Catholig, presenoldeb y sacrament hefyd. Dydyn nhw ddim yn hanfodol ond maent yn help i weddïo."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Gwir Barchedig Jeffrey John yn dweud bod agor y gadeirlan ddydd Llun yn gam ymlaen

Ychwanegodd: "Mi fydd yr organ yn canu - ond fydd yna ddim canu corawl, wrth gwrs, a byddwn wedi symud cadeiriau fel bod pobl yn gallu eistedd neu benlinio i weddïo."

'Camu i hafan dawel'

Un sy'n edrych ymlaen yn fawr i fynd yn ôl i Abaty Westminster yw Non Vaughan-O'Hagan.

Dywedodd: "Mae'n brofiad hollol synhwyraidd i fod yn yr Abaty - mae'n help mawr i agosáu at Dduw a dwi wir wedi colli hynny.

"Mae yna rywbeth anhygoel am gamu mewn i hafan dawel mas o fwrlwm dyddiol bywyd ac mae'r ffaith fod canrifoedd o bobl o'm blaen wedi gwneud yr un fath yn cyfoethogi'r profiad.

"Dwi'n edrych ymlaen yn fawr iawn i ddychwelyd - fydd e ddim yr un fath ond brysied y dydd pan fyddai'n gallu rhannu heddwch y cymun gyda'r person drws nesaf i fi unwaith eto."

Mae modd gwrando ar y drafodaeth yn llawn ar rifyn yr wythnos hon o Bwrw Golwg.