Carchar am ymosod ar swyddogion heddlu yn ystod parti
- Cyhoeddwyd
Mae dynes 32 oed o Wynedd wedi cael dedfryd o garchar am flwyddyn am ymosod ar dri swyddog heddlu oedd yn ymateb i helynt yn ystod parti'n cynnwys dros 30 o bobl.
Plediodd Nerys Williams o bentref Carneddi, ger Bethesda yn euog i dri chyhuddiad o ymosod ar weithiwr brys ar ôl ymddangos o flaen Llys Ynadon Llandudno ddydd Llun.
Cafodd ddedfrydau o 26 wythnos o garchar yn achos pob un o'r cyhuddiadau, ond gan fod dau ohonyn nhw'n cydredeg mae'n golygu blwyddyn dan glo.
Mae cynrychiolwyr heddlu wedi mynegi siom fod swyddogion yn wynebu trais o'r fath wrth geisio cadw cymunedau'n ddiogel yn ystod pandemig.
Cafodd Williams ei harestio a'i chadw yn y ddalfa tan yr ymddangosiad llys ddydd Llun wedi'r digwyddiad.
Cafodd dyn lleol hefyd ei arestio a'i ryddhau ar fechnïaeth.
'Neges glir dedfryd lem'
"Yn enwedig mewn cyfnod o wahardd cynulliadau fel hyn, mae'n siomedig iawn fod fy swyddogion yn wynebu trais corfforol wrth geisio cadw'r gymuned yn ddiogel," meddai'r Arolygydd Jon Aspinall.
"Mae'r ddedfryd yma'n danfon neges glir nad ydy ymosodiadau ar weithwyr brys yn cael eu goddef, a ni wnawn ni fyth ystyried trais o'r fath fel rhywbeth sydd 'jest yn rhan o'r job'."
Cafodd y ddedfryd ei chroesawu gan Ysgrifennydd Ffederasiwn Heddlu Gogledd Cymru, Mark Jones.
"Mae hyn yn esiampl eto fyth ble mae ein swyddogion heddlu ymroddgar, dewr a gweithgar yn dioddef ymosodiad treisgar am wneud eu gwaith," meddai.
"Mae'n druenus ac mae angen delio'n llym gyda'r rhai sy'n cyflawni'r fath droseddau.
"Rwy'n falch iawn fod dedfryd mor galed wedi ei rhoi a fydd, gobeithio, yn rhoi digon o amser i Nerys Williams feddwl ynghylch yr hyn a wnaeth."