Annog pobl â symptomau canser i fynd am help

  • Cyhoeddwyd
Arbrawf canserFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae unigolion sydd â symptomau posib o ganser yn cael ei hannog i beidio ymatal rhag cael help a chyngor meddygol mewn ymgyrch newydd gan Lywodraeth Cymru.

Mae rhai elusennau canser eisoes wedi rhybuddio y gallai'r galw am ofal gynyddu'n sylweddol cyn bo hir oherwydd bod gwasanaethau wedi cael eu hamharu gan Covid-19.

Yn y cyfamser mae ymchwil newydd gan Goleg Brenhinol y Radiolegwyr yn awgrymu y gallai prinder meddygon canser danseilio ymdrechion i ddelio â thon newydd o achosion sy'n cael ei ddisgwyl yn yr hydref.

Mae'r ymchwil hefyd yn darogan mai Cymru fydd y wlad yn y DU a'r prinder mwyaf o oncolegwyr ymhen pedair blynedd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae ymgynghoriadau drwy gyswllt fideo yn un ffordd o addasu apwyntiadau

Nod ymgyrch newydd Llywodraeth Cymru ydy pwysleisio fod profion a thriniaethau canser yn dal i ddigwydd - er bod rhai gwasanaethau wedi gorfod cael eu haddasu yn sgil coronafeirws.

Mae hyn yn cynnwys cynnal apwyntiadau drwy gyswllt fideo neu yr angen i staff wisgo PPE.

Mae 'na bryder hefyd fod rhai cleifion â symptomau posib o ganser yn amharod i gael eu gweld oherwydd eu bod yn ofni cael eu heintio gan Covid-19.

Ffynhonnell y llun, Spire Healthcare
Disgrifiad o’r llun,

Mae ysbyty preifat Spire yng Nghaerdydd wedi trin 1,000 o gleifion y GIG, gan gynnwys nifer o gleifion canser

Fis diwethaf rhybuddiodd elusen Macmillan fod Cymru, ynghyd â gweddill y DU, yn wynebu ton o achosion yn y dyfodol - oherwydd yr effaith mae Covid-19 wedi'i gael ar ddiagnosis, triniaeth a gofal.

Yn ôl yr elusen mae gostyngiad sylweddol y nifer yr achosion sy'n cael eu cyfeirio gan feddygon teulu, y ffaith fod cynlluniau sgrinio cenedlaethol wedi cael eu gohirio ac oedi llawdriniaethau yn enghreifftiau o hynny.

Mae pryder hefyd am yr effaith ar driniaethau fel cemotherapi - syn gallu effeithio ar system imiwnedd unigolion a'i gallu i frwydro feirysau.

Galwodd Macmillan am gynlluniau pendant gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â sut i ailddechrau rhagor o wasanaethau canser.

Ail-gychwyn cynlluniau sgrinio

Ynghyd ag ymgyrch Llywodraeth Cymru mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn amlinellu sut y byddan nhw'n mynd ati i ailgyflwyno cynlluniau sgrinio cenedlaethol gan ddechrau a sgrinio serfigol ym mis Gorffennaf.

Fe fydd gwahoddiadau hefyd yn cael ei hanfon i rai sy'n gymwys i gael sgrinio ar gyfer canser y fron a chanser y coluddyn.

Yn y cyfamser mae ysbytai preifat wedi bod yn cydweithio a byrddau iechyd er mwyn cynnal llawdriniaethau canser.

Er hyn mae nifer o gleifion yng Nghymru wedi gweld eu triniaethau'n cael eu gohirio.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Vaughan Gething

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething: "Rydyn ni'n gwybod bod llawer o bobl wedi bod yn osgoi eu meddygfa neu'r ysbyty oherwydd Covid-19, ond mae profion a thriniaeth ar gyfer canser ar gael ac rwyf eisiau i'r rhai sydd angen gofal a thriniaeth barhau i ddefnyddio'r gwasanaethau hynny.

"Bydd y gwasanaethau yn edrych yn wahanol, gyda rhai apwyntiadau'n cael eu cynnal o bell.

"Rydyn ni wedi gweithio'n galed gyda'r Gwasanaeth Iechyd i sicrhau y gall gwasanaethau canser barhau, ond mae'r pandemig wedi effeithio ar wasanaethau.

"Nid yw hynny'n golygu nad yw'r GIG yno i chi, ond mae'n golygu bod gofal a thriniaeth wedi gorfod addasu er mwyn eu cynnal mewn byd gyda Covid-19.

"Byddwn ni'n parhau i wneud popeth y gallwn ni i sicrhau bod gwasanaethau canser yno i chi pan fydd arnoch eu hangen."

Rhagweld prinder arbenigwyr

Yn y cyfamser mae Coleg Brenhinol y Radiolegwyr yn rhybuddio y gallai prinder o feddygon canser arbenigol danseilio'r ymdrech i ddelio â'r nifer o achosion sy'n debygol o fod yn pentyrru.

Mae'r coleg yn pryderu y gall prinder oncolegwyr, ton newydd o achosion ynghyd â llai o gapasiti o ganlyniad i fesurau i reoli heintiadau, olygu canlyniadau gwaeth i gleifion.

Dywed y coleg y gallai'r effaith ar Gymru fod yn arbennig o sylweddol yn y blynyddoedd i ddod.

Mae'r coleg yn cynnal arolwg blynyddol o faint o ymgynghorwyr oncolegol sy'n gweithio ar draws Prydain.

Er bod fod cynnydd o dri meddyg llawn amser wedi bod yn y tair prif ganolfan ganser yng Nghymru yn ystod 2018-19, yn ôl ymchwil y coleg mae hyn 21% yn is na'r lefel sydd ei angen.

Dywedodd Dr Tom Roques, arweinydd gweithlu oncoleg glinigol yr RCR: "Roedd timau canser wedi parhau i ddarparu gwasanaethau yn ystod y pandemig. Nid oes gennym y gallu i ddarparu'r un lefel o ofal ag o'r blaen, pan fyddwn yn wynebu brig newydd o atgyfeiriadau canser ac o ystyried pwysau ychwanegol coronafeirws.

"Bydd oedi wrth gael diagnosis, ynghyd â phrinder oncolegwyr, yn anochel yn golygu cleifion yn aros yn hirach i weld arbenigwr canser, gyda chanlyniadau gwaeth a llai o siawns o wella eu canser."