Coronafeirws: Pryder am bêl-droed ar lawr gwlad yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Wrth i bêl-droed ddychwelyd yn Lloegr ddydd Mercher mae 'na bryder bod rhai o glybiau lleiaf Cymru yn dioddef o achos sgil effaith coronafeirws.
Yn ôl rheolwr Clwb Pêl-droed Bangor 1876, gallai gymryd hyd at ddwy flynedd i rai clybiau Cymreig ddygymod â'r effaith ariannol.
Tra bod nifer yn awchu i ddychwelyd i'r cae pêl droed, does dim dyddiad pendant wedi ei osod yma yng Nghymru.
Yn ôl llefarydd ar ran Cymdeithas Bêl-droed Cymru, maen nhw'n gweithio gyda'r llywodraeth i ddod â'r gêm yn ôl.
Erbyn hyn mae caeau CPD Bangor 1876 wedi bod yn wag ers bron i dri mis, sydd wedi rhoi amser i'r clwb wella'r cyfleusterau yno.
Ond er gwaethaf awch y chwaraewyr a chefnogwyr i ddychwelyd, mae 'na bryder am effaith y cyfnod clo.
"Fel 'da chi'n gwybod i'r clybiau lleol, arian ydy pob dim iddyn nhw," meddai rheolwr CPD Bangor 1876, Mel Jones.
"Jest gwerthu te a choffi sy'n talu am bethau iddyn nhw drwy'r tymor.
"Mae 'di bod yn amser anodd yma oherwydd does 'na ddim arian wedi bod yn dod mewn.
"Dwi'n meddwl neith o effeithio y clybiau hyn am ryw flwyddyn neu ddwy," meddai.
Yn ystod y cyfnod clo mae'r hyfforddwyr a'r chwaraewyr wedi bod yn hyfforddi a chymdeithasu dros Zoom, ond mae ysgrifennydd y clwb rŵan am weld pêl-droed ar lawr gwlad yn dychwelyd yn fuan.
"Fel cefnogwr dwi'n falch o weld bod y gêm yn ôl [yn Lloegr] ond bydd 'na'm llawer o awyrgylch yna," meddai Dafydd Huws.
"Efallai bod 'na achos gwell i ddechrau ar y gwaelod a gadael timau ar lawr gwlad i chwarae lle does 'na ddim problem efo pobl yn gwylio'r gêm ac yn y blaen."
Dywed Cymdeithas Bêl-droed Cymru eu bod nhw'n gweithio gyda'r llywodraeth ac yn "adolygu'r canllawiau" yn gyson.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd21 Mai 2020