Cyfnod heriol i siopau trefi'r ffin â Lloegr
- Cyhoeddwyd
Wrth i siopau yn Lloegr agor eu drysau'r wythnos hon mae 'na alw ar Lywodraeth Cymru i osod dyddiad pendant i hynny ddigwydd yma yng Nghymru.
Yn ôl un perchennog siop sydd "dafliad carreg" o'r ffin â Lloegr, mae angen i'r Llywodraeth osod dyddiad i roi sicrwydd i fusnesau ar y stryd fawr.
Dywedodd Selwyn Evans, perchennog Siop y Siswrn yn Yr Wyddgrug, mai "dyma'r cyfnod mwya heriol mewn deugain mlynedd" iddo.
Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru adolygu'r cyfyngiadau presennol ddydd Gwener hwn.
Yn weledol, does 'na fawr o wahaniaeth ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr ac i gymunedau sy'n byw yno, fe allen nhw groesi Glawdd Offa sawl gwaith mewn diwrnod.
Ond wrth i Lywodraeth Cymru a'r DU ddilyn trywydd gwahanol wrth lacio'r cyfyngiadau, beth yw effaith hynny ar y rhai sy'n byw yno?
Dros y ffin yn Lloegr mae Lowri Roberts wedi sefydlu ei siop Gymreig yng Nghroesoswallt, Siop Cwlwm, ac yn un o'r miloedd o siopau yno sy'n cael codi'r llen wedi tri mis 'dan glo.
"Dwi'n teimlo reit nerfus," meddai wrth agor ei siop am y tro cyntaf.
"Dwi'm yn disgwyl lot fawr o gwsmeriaid oherwydd bod 'na dipyn o bobl sy'n dod atom ni yn trafeilio dros y ffin."
"Dwi'm yn siŵr ydi pobl yn teimlo'n hyderus eto i fentro allan o'u pum milltir sgwâr," meddai.
Mae Siop Cwlwm, sydd wedi ei leoli yn adeilad y farchnad yng Nghroesoswallt bellach ar ei newydd wedd gyda sgriniau diogelwch wedi eu codi a systemau un ffordd - arwydd felly o'r hyn allai siopau Cymru eu gweld.
Wrth sôn am y gwahaniaethau rhwng Cymru a Lloegr, mae Lowri Roberts yn dweud bod y rheolau "mor wahanol".
"Da ni di arfer croesi'r ffin ac mae 'na wastad gwahaniaethau wedi bod.
"Dwi wedi cael fy stopio gan yr heddlu yn Wrecsam a nes i esbonio bod fi'n dod i fy ngwaith ond mae'n wahanol yn Lloegr - 'di'r cwestiynu ddim yna".
Gyda Lloegr yn llacio'r cyfyngiadau ar siopau, mae busnesau yma yng Nghymru yn galw am lacio cyfyngiadau tebyg.
"Dwi'n credu bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn ofalus iawn ac wedi derbyn cyngor arbenigol," meddai Selwyn Evans o Siop y Siswrn yn Yr Wyddgrug.
"Ond erbyn hyn dwi'n meddwl fod o'n bryd inni gael y rheolau wedi codi yng Nghymru ac amserlen bendant i anelu amdano.
"Da ni wedi cau a heb wneud unrhyw fusnes o gwbl ers tri mis sy'n golygu, wrth gwrs, bod ni wedi colli 100% o'n busnes.
"Wedi bron i ddeugain mlynedd o weithio ar y stryd fawr - dyma'r cyfnod mwyaf heriol yn bendant," meddai.
"Ddaw pethau ddim yn ôl fel ag yr oeddan nhw - dwi ddim yn siŵr be fydd stryd fawr y dyfodol."
Yn ôl Mr Evans mae angen strategaeth glir i sicrhau fod y stryd fawr yn gallu dygymod yn y tymor hir.
Ddydd Gwener mae disgwyl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei hadolygiad ddiweddara ar y cyfyngiadau presennol a bydd masnachwyr ar y ffin ac ar draws Cymru yn cadw llygaid barcud ar yr hyn fydd yn cael ei gyhoeddi.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd31 Mai 2020