Cyhoeddi dyddiadau newydd gemau Euro 2020 Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Uefa wedi cadarnhau bydd y 12 lleoliad ar gyfer Euro 2020 yn cael eu defnyddio pan fydd y gystadleuaeth yn cael ei gynnal yn ystod haf 2021.
Mae'n golygu y bydd Cymru yn chwarae eu dwy gêm gyntaf, yn erbyn Y Swistir ar 12 Mehefin a Twrci bedair niwrnod yn ddiweddarach, ym mhrifddinas Azerbaijan, Baku.
Bydd tîm Ryan Giggs yn wynebu'r Eidal yn Rhufain ar 20 Mehefin.
Fe fydd tocynnau yn parhau i fod yn ddilys ar gyfer y twrnament y flwyddyn nesaf.
Mae gan ddeiliad tocynnau gyfle i ddychwelyd eu tocynnau os nad ydynt am fynychu'r gemau a derbyn ad-daliad.
Mae pedwar o glybiau Uwchgynghrair Cymru wedi cael gwybod beth fydd fformat cystadlaethau Cynghrair y Pencampwyr a Chynghrair Europa y tymor nesaf.
Bydd gemau rhagbrofol yn ddwy gystadleuaeth yn cael eu cynnal dros un cymal yn unig.
Cei Conna fydd cynrychiolwyr Cymru yng Nghynghrair y Pencampwyr gyda'r Seintiau Newydd, Y Bala a'r Barri yn cystadlu yng Nghynghrair Europa gyda'r bwriad i'r gemau gael eu cynnal ym mis Awst.