Hiliaeth 'systemig' yn rhan annatod o Gymru

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

'Dyw pobl ddim am gydnabod bod hiliaeth yn digwydd yma'

Er gwaetha'r gorchymyn gan Lywodraeth Cymru i aros adref, mae cannoedd wedi ymuno mewn protestiadau yn erbyn hiliaeth yn ddiweddar.

Marwolaeth George Floyd yn yr Unol Daleithiau oedd y sbardun.

Ond nid ymddygiad yr heddlu yn Minneapolis yn unig sy'n ysgogi protestiadau yng Nghymru a thu hwnt.

Mae'r ystadegau yn dangos bod 'na anghyfartaledd yn wynebu pobl o leiafrifoedd ethnig ym mhob math o feysydd yng Nghymru.

Mae pobl du dros chwe gwaith yn fwy tebygol o gael eu stopio a'u harchwilio gan yr heddlu - a dros bedair gwaith yn fwy tebygol o gael eu harestio na phobl wyn.

Mae gan bobl o gefndiroedd du neu leiafrifoedd ethnig (BAME) gyfraddau cyflogaeth is na phobl wyn.

Ac er bod y bwlch yn cau, mae'r gyfradd o deuluoedd tlawd yn is os ydy pennaeth yr aelwyd yn wyn.

Ar y ddwy nos Fercher ddiwethaf mae pobl wedi ymgasglu tu allan i Neuadd y Ddinas, yng Nghaerdydd, i benlinio am wyth munud a 46 eiliad.

Pan gafodd George Floyd ei arestio mis diwethaf, dyna faint o amser wnaeth e dreulio ar y llawr cyn iddo farw.

Newid y gwersi hanes

Mewn distawrwydd, mae rhai yn codi dwrn tra bod eraill yn dal arwyddion sy'n dweud 'Black Lives Matter.'

Un o'u gobeithion yw cael gwared ar gerflun Syr Thomas Picton, sy'n sefyll tu fewn i Neuadd y Ddinas - adeilad sydd wedi bod yn symbol o rym gwleidyddol yn y brifddinas.

Ar un adeg roedd Picton yn cael ei ystyried yn arwr am ei gyfraniad ym mrwydr Waterloo.

Bellach ei greulondeb fel llywodraethwr Trinidad sydd dan sylw.

Disgrifiad o’r llun,

Marwah Ahmed: 'Dim ond fel caethweision glywais i am bobl ddu mewn gwersi hanes'

Galw am newid i addysg mewn ysgolion mae rhai.

Fe ddywedodd Marwah Ahmed, 18, taw dim ond fel caethweision y dysgodd hi am bobl ddu mewn gwersi hanes.

Mae rhai yn dweud bod anghyfiawnder y pandemig coronafeirws a'r ffordd mae'n lladd nifer uwch o bobl BAME wedi cyfrannu at y protestiadau.

Mae aros adre wedi "rhoi mwy o amser i bobl ddarllen am bethau," meddai Hussein Said, o Stand up to Racism Caerdydd.

"Ond hefyd y prif beth yw'r effaith anghymesur ar gymunedau leiafrif ethnig."

'Dwi'n obeithiol am newid ystyrlon'

Doedd Savanna Jones o Gaerdydd erioed wedi bod mewn protest tan iddi ymuno â channoedd o bobl yng nghanol y ddinas yn ddiweddar.

Fel rhan o'i hastudiaethau ar gyfer gradd feistr, mae'n ymchwilio i brofiadau staff a myfyrwyr ethnig mewn prifysgolion.

"Dwi'n meddwl bod lot o bobl ddim am gydnabod bod hiliaeth yn digwydd yn ein cymunedau ni," meddai.

"Mae lot o bobl yn meddwl bod hiliaeth yn rhywbeth sy'n digwydd mewn gwlad arall.

"'Dyn nhw ddim eisiau cydnabod hiliaeth systemig neu 'micro aggression,' sef darnau o hiliaeth bychan, ond mae pobl yn meddwl bod nhw'n bethau mawr os ydyn nhw'n digwydd dro ar ôl tro."

Mae Savanna, 27, yn dweud iddi brofi hyn, gan gynnwys hyd yn oed cwrdd â phobl oedd yn synnu ei chlywed yn siarad Cymraeg.

"Dwi'n obeithiol bod newid ystyrlon yn mynd i ddigwydd ond mae'r mudiad yma ond wedi digwydd dros nos," meddai.

"Sydd yn beth anodd i gydnabod achos os bydde chi'n gofyn i unrhywun o hil ethnig a oedd hiliaeth systemig yn bodoli cyn y diwrnod hwn, bysen nhw'n dweud 'ie' yn bendant."