Cyngor yn gofyn i arcêd dalu grant £25,000 coronafeirws yn ôl
- Cyhoeddwyd
Mae perchennog arcêd wedi cael cais i ad-dalu ei grant busnes coronafeirws o £25,000.
Cafodd Alex Carpanini yr arian ym mis Ebrill ond yr wythnos diwethaf gofynnodd Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr am yr arian yn ôl.
Dywed y cyngor nad yw'r busnes yn gymwys a'u bod yn dilyn arweiniad Llywodraeth Cymru.
Mae Mr Carpanini yn rhedeg naw Canolfan Hapchwarae i Oedolion (Adult Gaming Centres) - arcedau gyda pheiriannau betio sydd â 'stake' o £2 ar y mwyaf - mewn saith ardal awdurdod lleol gwahanol yng Nghymru.
Mae'n cyflogi mwy na 40 o staff sydd i gyd wedi cael eu rhoi ar 'furlough'.
Amrywiad yn 'wallgof'
Derbyniodd e-bost gan Gyngor Pen-y-bont ar 9 Mehefin yn dweud bod £25,000 wedi ei dalu iddo ym mis Ebrill "trwy gamgymeriad, gan nad yw busnesau fel eich un chi yn cwrdd â'r meini prawf a osodwyd gan Lywodraeth Cymru".
"A allwch chi drefnu i'r swm o £25,000 gael ei dalu'n ôl i'ch cyfrif Cyfraddau Busnes," ychwanegodd.
Heblaw am Ben-y-bont ar Ogwr, mae tri chyngor wedi rhoi grantiau iddo, un wedi ei wrthod, un heb ymateb, ac mae un wedi talu allan am un arcêd yn ei ardal ond nid am un arall.
Dywedodd Mr Carpanini fod yr amrywiad yn "wallgof".
"Jest byddwch yn gyson, eglurder ledled Cymru, yn lle loteri cod post yn dibynnu ar ba awdurdod lleol rydych chi oddi tano," meddai.
Mae'r corff masnach Bacta wedi bod yn lobïo Llywodraeth Cymru i roi arweiniad cliriach i gynghorau bod arcedau'n gymwys i gael y grant, fel sy'n digwydd yng ngweddill y DU.
Dywed Richard Case o Bacta fod y busnesau'n cael eu trin "yn gwbl annheg".
Dywedodd Llywodraeth Cymru mai cynghorau sydd i benderfynu a yw busnes yn "debyg yn fras" i'r rhai sydd wedi'u rhestru fel rhai sy'n gymwys i gael y grant.
Mae'r canllaw yn nodi bod "casinos a chlybiau gamblo" wedi'u heithrio.
Mae'n ymddangos bod rhai cynghorau wedi penderfynu bod rhai arcedau yn y categori hwnnw, ac eraill ddim.
Dywedodd Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi "eglurhad pellach ynghylch pa amodau y byddai grantiau i sefydliadau gamblo yn berthnasol".
Ar ôl hynny, meddai'r cyngor, daeth hi i'r amlwg na fyddai dau sefydliad wedi bod yn gymwys am y grantiau bellach.
"Rydym wedi ysgrifennu at y busnesau dan sylw i egluro hyn, ac wedi eu gwahodd i drafod y mater ymhellach gyda ni," meddai llefarydd.
Dywed Mr Carpanini nad yw wedi clywed gan y cyngor ers y cais cychwynnol i ad-dalu.
Dywed Ffederasiwn y Busnesau Bach (FSB) bod amrywiad o gyngor i gyngor o ran sut mae'r grantiau'n cael eu dyfarnu yn creu ansicrwydd ac ymdeimlad o annhegwch, a'i fod yn broblem mewn sectorau eraill hefyd, fel canolfannau chwarae plant.
Dywedodd Ben Cottam o'r FSB fod cyngor sy'n gofyn i fusnes ad-dalu'r grant yn "bryderus iawn".
Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, sy'n cynrychioli cynghorau: "Mae awdurdodau lleol wedi dyfarnu bron i 58,000 ac wedi dosbarthu ychydig dros £700m i gefnogi busnesau a chadw economïau lleol i fynd.
"Mae canllawiau Llywodraeth Cymru wedi cael eu dilyn yn agos a'u cymhwyso'n gyson gan awdurdodau lleol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2020