'Siom' wedi i gynghorydd Llafur hawlio grant busnes bach
- Cyhoeddwyd
Mae perchennog ysgol ddawns yn dweud ei bod wedi "ei siomi" gan y ffordd y mae ei landlord wedi delio â grant busnes bach coronafeirws.
Mae Vickie Bennett yn rhedeg Rubylicious yn Nhreganna yng Nghaerdydd.
Ei landlord yw'r cynghorydd Llafur, Ramesh Patel, sydd hefyd yn gweithio yn swyddfa etholaeth Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford.
Cafodd y grant o £10,000 ei roi gan Gyngor Caerdydd i Mr Patel gan mai ef yw'r trethdalwr cofrestredig ar gyfer yr eiddo.
Dywed Mr Patel ei fod yn bwriadu defnyddio'r arian i roi "gwyliau rhent" i Ms Bennett ac mae'n mynnu na fydd "ceiniog o'r arian" yn cael ei gadw ganddo. Ond mae'n gofyn iddi ymddiheuro am ei sylwadau gyntaf.
Ond mae Ms Bennett yn dweud ei bod hi a thenant arall yn talu cyfraddau a biliau trwy Mr Patel ac felly nhw ddylai dderbyn y grant.
Cafodd Rubylicious ei sefydlu gan Ms Bennett yn 2010 ac mae'n ei ddisgrifio fel "cartref o gartref" i rai o'r plant sy'n mynd i ddosbarthiadau yno.
"Mae cyfeillgarwch gwych wedi'i wneud, ac mae llawer o'r plant yn ffrindiau y tu allan i ddawns," meddai.
Bu'n rhaid i'r busnes gau oherwydd coronafeirws.
'Moesol anghywir'
Er mwyn helpu i ddelio ag effaith y pandemig, gall busnesau sy'n gymwys i gael rhyddhad ardrethi busnesau bach - y rhai sydd â gwerth ardrethol hyd at £12,000 - dderbyn grant o £10,000.
Ond pan geisiodd Ms Bennett gael gafael ar y grant, dywedwyd wrthi ei fod eisoes wedi'i hawlio gan Mr Patel.
Dywedodd Ms Bennett: "Mae'n gynghorydd, rydyn ni'n ysgol gymunedol leol, mae'n ymfalchïo mewn gofalu am ei gymuned a dwi'n teimlo ei fod wedi ein siomi ni i gyd.
"Byddai'r arian hwnnw wedi bod yn help mawr.
"Rwy'n teimlo ei fod yn foesol anghywir, y penderfyniad y mae wedi'i wneud i gymryd yr arian yma pan nad oes ganddo fusnes sy'n rhedeg o'r adeilad yma sydd yn y fantol."
Mewn datganiad dywedodd Mr Patel ei fod yn "anghytuno'n llwyr" â "chyhuddiadau" Ms Bennett.
"Fi yw trethdalwr cyfrifol gyfreithiol yr eiddo masnachol a thrwy hynny roedd gen i hawl gyfreithiol i'r grant yn y swm o £10,000.
"Hyd yn oed cyn i mi dderbyn y grant, rhoddais ryddhad rhent i Ms Bennett am dri mis yn ystod y cyfnod anodd hwn.
"Ar ôl derbyn y grant, fy mwriad oedd cynnig 100% o'r grant ar ffurf rhyddhad rhent pellach ar ddiwedd y cyfnod o dri mis.
"Rwyf wedi dweud wrth fy nghyfreithwyr i ysgrifennu at Ms Bennett yn gofyn iddi dynnu pob honiad ffug yn fy erbyn a chynnig ymddiheuriad llawn.
"Unwaith y bydd Ms Bennett yn cydymffurfio â chais fy nghyfreithiwr, byddaf yn gallu cynnig rhyddhad rhent pellach iddi."
'Codi cywilydd am ddweud y gwir'
Mewn ymateb i ddatganiad Mr Patel, dywedodd Ms Bennett na fydd hi'n cael ei "bwlio" gan Mr Patel ac na fydd yn ymddiheuro am "godi cywilydd arno trwy ddweud y gwir."
Nid oes unrhyw awgrym bod Mr Patel wedi gwneud unrhyw beth anghyfreithlon.
Ond mae BBC Cymru wedi cael gwybod bod anhapusrwydd o fewn y Blaid Lafur yn lleol am y ffordd y mae wedi delio â'r sefyllfa.
Trafodaeth seneddol
Fe gododd AS Canol De Cymru, Neil McEvoy y mater yn y Senedd fis diwethaf.
Wrth siarad yn y Senedd, dywedodd bod Mr Patel yn gwrthod trosglwyddo'r £10,000.
Wrth drafod a Gweinidog yr Economi, Ken Skates, dywedodd, "Roeddwn i'n meddwl y bydden i'n gofyn i chi drafod hyn ac efallai gael gair a'r prif weinidog yn gofyn iddo yntau ofyn i'w aelod o staff, y Cynghorydd Patel, i drosglwyddo'r £10,000 i Rubylicious yng Ngorllewin Caerdydd, yn hytrach na'i bocedi ei hunan."
Fe ysgrifennodd y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans at Mr McEvoy yn dweud bod y grantiau yn cael eu rhoi i berchennog cofrestredig talwr treth adeilad.
"Byddai angen i denantiaid sydd a chytundeb gyda'u landlordiaid ynglŷn a thalu'r trethi gysylltu a'u landlord os ydyn nhw eisiau gwneud newidiadau i'r trefniadau," meddai hi.
Fe ddywedodd y dadansoddwr busnes a'r syrfëwr siartredig, Chris Sutton, bod 'na broblemau yn perthyn i'r cynllun.
"Roedd y cynllun bendant yn targedu perchennog y busnes bach," dywedodd.
Yn ôl Ben Cottam o Ffederasiwn y Busnesau bach, dyw canllaw Llywodraeth Cymru ddim yn rhoi mandad i landlordiaid drosglwyddo'r grant i'w tenantiaid, ond dywedodd y byddai'n gobeithio y byddai landlordiaid yn 'dangos dealltwriaeth' o anghenion busnesau bychain.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd3 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd20 Mai 2016