Arestio pump wedi parti mewn tŷ yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
heddlu

Mae pump o bobl wedi cael eu harestio ar ôl ymosodiadau ar swyddogion yr heddlu mewn parti anghyfreithlon mewn tŷ yng Nghaerdydd.

Cafodd pedwar o blismyn eu hanafu ar ôl cael eu galw i dŷ yn ardal Llaneirwg, Caerdydd ar ôl adroddiadau fod parti yn cael ei gynnal yno nos Wener.

Cafodd pump o bobl eu harestio ar amheuaeth o ymosod ar weithwyr argyfwng.

Mae'r pump wedi eu rhyddhau ond mae ymchwiliad yr heddlu yn parhau.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu'r De fod eu swyddogion wedi derbyn triniaeth am eu hanafiadau, ond yna iddynt ddychwelyd i'w dyletswyddau.

Ychwanegodd fod y rheolau yng Nghymru yn golygu fod disgwyl i bobl aros yn lleol - fel arfer o fewn ardal pum milltir.

Maen nhw hefyd yn gallu cwrdd â preswylwyr un cartref arall ond ddim ond yn yr awyr agored.