Castell Howell: Ymgynghori ar golli swyddi wedi Covid-19

  • Cyhoeddwyd
Castell Howell

Mae cwmni bwyd sy'n cyflogi dros 700 o bobl wedi dechrau ymgynghoriad ar ddiswyddiadau yn sgil effaith y pandemig coronafeirws.

Dywedodd Bwydydd Castell Howell, sydd â'i bencadlys yn Sir Gaerfyrddin, bod gwerthiant wythnosol wedi cwympo 65%.

Dywed y cwmni bod ei "chwsmeriaid craidd" - ysgolion, tafarndai, bwytai a gwestai - yn annhebygol o fod yn gweithredu'n arferol am rai misoedd, ac felly roedd angen dechrau'r broses ymgynghori.

Nid oedd y cwmni'n gallu cadarnhau faint o swyddi sydd mewn perygl.

Roedd gan y cwmni drosiant o £126m yn ôl y cyfrifon diweddaraf yn 2018, ond mae'r pandemig wedi cael cryn effaith ar farchnadoedd y busnes yn ddiweddar.

Yn ôl datganiad y cwmni: "Er ein hymdrechion i gynyddu gwerthiant i gwsmeriaid sydd ddim yn rai craidd, gwerthiant i'r cyhoedd a marchnadoedd newydd eraill, mae ein gwerthiant wythnosol i lawr 65%, ac mae'n ymddangos yn annhebygol y bydd yn adfer tan ymhell i mewn i 2021."

'Penderfyniad anodd iawn'

Wrth i gynllun diogelu swyddi Llywodraeth y DU ddod i ben ym mis Hydref, dywedodd y cwmni bod angen dechrau'r ymgynghori "fel bod colledion ariannol yn cael eu lleihau" pan ddaw'r gefnogaeth i ben.

Ychwanegodd y cwmni y byddai swyddi'n cael eu torri'n orfodol, yn wirfoddol ac ar sail lleihau oriau unigolion.

Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr y cwmni, Brian Jones, ei fod yn gobeithio bod unrhyw swyddi sy'n cael eu torri yn cael eu hadfer pan fydd y sector yn cryfhau unwaith eto.

"Mae hwn wedi bod yn benderfyniad anodd iawn, ac mae'n fy nhristáu yn bersonol gan fy mod yn deall y pryder y bydd yr ymgynghoriad yn ei achosi i'r gweithwyr," meddai.

"Byddwn yn gwneud popeth y gallwn i'w cefnogi yn ystod y cyfnod hwn."