Llywydd: AS yn 'chwarae gemau' trwy eistedd yn y Senedd
- Cyhoeddwyd

Mae aelod annibynnol o Senedd Cymru wedi cael rhybudd gan y Llywydd "i beidio chwarae gemau gyda'ch senedd" ar ôl cymryd rhan mewn cyfarfod rhithwir o'r siambr ym Mae Caerdydd.
Mynnodd AS Canol De Cymru, Neil McEvoy, nad yw'n briodol i ddisgwyl i blant ddychwelyd i'r ysgol tra bod gwleidyddion "yn cuddio yn eu cartrefi".
Dywedodd y Llywydd, Elin Jones yn ystod y cyfarfod rhithwir ddydd Mercher: "Rwy'n ymwybodol fod un aelod yn y siambr ac yn ffilmio'i hun ac yn darlledu ar y cyfryngau cymdeithasol.
"Byddaf yn gofyn i'r aelod hwnnw gael ei dynnu o'r senedd rithwir, a byddwn yn cau'r siambr maes o law".
Ychwanegodd: "Fy nghyngor i Mr McEvoy yw i beidio chwarae gemau gyda'ch senedd."
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae Mr McEvoy'n dadlau bod y sefyllfa'n annerbyniol a bod disgwyl i wleidyddion "arwain trwy esiampl".
Dywedodd ar ôl gorfod gadael y siambr: "Mae yna ddigon o le yma i gadw pellter cymdeithasol... dyle ni fod yn ôl yn y gweithle a dylai pethau fod yn gweithio yn ôl yr arfer.
"Gallwn ni ddim bod mewn sefyllfa ble rydym yn gorchymyn athrawon i ddychwelyd i'r gwaith, yn rhoi plant ar y rheng flaen hefyd, a'r gwleidyddion yn cuddio.
"Dydy e ddim yn dderbyniol. Dylen ni fod yn arwain trwy esiampl. Rwy'n gwneud pwynt y dylen ni fod yn gweithio yn ôl y drefn arferol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd6 Mai 2020
- Cyhoeddwyd8 Ebrill 2020