Ffrwydrad Blaendulais: Clod i 'gymuned glos'
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorwyr wedi talu teyrnged i'w cymuned ar ôl i dŷ gael ei ddinistrio yn dilyn ffrwydrad nwy yn ardal Castell-nedd Port Talbot.
Cafodd tri o bobl - dynes 31 oed a dau fachgen ieuengach na chwech oed - eu hanafu'n ddifrifol yn y digwyddiad ym mhentref Blaendulais brynhawn Mercher.
Mae'r ddynes wedi'i henwi'n lleol fel Jessica Williams, ac mae'r ddau fachgen yn feibion iddi.
Fe gafodd y plant sydd wedi'u hanafu eu cludo mewn ambiwlans awyr i Ysbyty Southmead ym Mryste, tra bo'r oedolyn wedi'i gludo mewn ambiwlans i Ysbyty Treforys yn Abertawe.
Dywedodd Heddlu De Cymru bod y tri yn parhau yn yr ysbyty mewn cyflwr difrifol ond sefydlog.
Mae'r llu yn ymchwilio i achos y ffrwydrad.
'Rhywbeth mawr wedi digwydd'
Dywedodd y cynghorydd cymunedol, Emyr-Wyn Francis ei fod yn byw tua milltir i ffwrdd o'r digwyddiad a'i fod wedi clywed y ffrwydrad.
"Fe ysgwydodd y tŷ ac o'n i'n gwybod yn syth bod rhywbeth mawr wedi digwydd," meddai ar y Post Cyntaf fore Iau.
"Roedd e'n anhygoel pa mor gloi oedd y gwasanaethau wedi cyrraedd - ambiwlans awyr wedi cyrraedd o fewn chwarter awr i'r digwyddiad ei hun."
Ychwanegodd y Cynghorydd Francis bod cymuned Blaendulais yn un glos, a bod hynny wedi'i adlewyrchu yn yr ymateb i'r digwyddiad.
"Mae wedi bod yn sioc fawr i'r gymuned, i'r teulu yn sicr, ac i bawb sy'n byw yn y cartrefi lleol, ac mae'n meddyliau ni gyd gyda nhw ar hyn o bryd.
"Ni'n gymuned glos, pawb yn 'nabod ei gilydd... a phan ddigwyddodd y ffrwydrad fe aeth cwpl o bobl leol i helpu'r fam allan o'r tŷ - dangos pa mor glos y'n ni fel cymuned.
"Dwi wedi bod lawr yno, a does dim tŷ yna - ma' fe wedi dymchwel i'r llawr.
"Yr hyn sy'n bwysig ar adeg fel hyn yw bod rheiny sydd wedi cael ei effeithio yn cael eu hedrych ar eu hôl."
'Dod at ei gilydd'
Mae 14 o deuluoedd wedi gorfod gadael eu cartrefi yn dilyn y ffrwydrad ac mae'r ffordd yn parhau ynghau.
"Mae gyda ni neuadd gymunedol a chlwb rygbi lleol mae'r teuluoedd wedi bod yn mynd," meddai'r cynghorydd Francis.
"Mae'r gymuned wedi dod at ei gilydd i drio edrych ar eu hôl nhw. Mae sôn am gasglu dillad i'r plant sy' wedi colli eu cartref."
Roedd Jeff Davies, oedd yn ddiffoddwr tân cyn iddo ymddeol, yn un o'r cymdogion wnaeth ruthro yno i helpu.
"Roedd hi'n olygfa anghredadwy, ofnadwy," meddai wrth BBC Radio Wales fore Iau.
"Fel arfer y peth call i wneud ydy cadw eich pellter a disgwyl, ond yn amlwg mae 'na wastad oedi nes bod y gwasanaethau brys yn cyrraedd, a phan y'ch chi'n clywed pobl ac yn gwybod bod 'na bobl yn yr adeilad, yn reddfol eich ymateb yw helpu.
"Diolch byth, mae'n siŵr fod tua dwsin o bobl wrth flaen yr adeilad a thua hanner dwsin yn y cefn - roedd hi'n ymdrech wych gan y gymuned."
Dywedodd ei fod o a chymdogion eraill wedi achub y fam o'r rwbel tra bod criw arall yn tynnu'r plant o'r tŷ.
"Roedd hi'n anhygoel - dynes ifanc mor ddewr. Roedd hi wedi'i hanafu ond yn bryderus iawn am ei phlant," meddai.
Mae ymgyrch ar-lein i godi arian i'r teulu eisoes wedi casglu dros £1,700.
Dywedodd cynghorydd sir lleol, Stephen Karl Hunt - wnaeth sefydlu'r ymgyrch codi arian - ei fod eisiau diolch i bawb wnaeth helpu'r teulu a'u cymdogion yn dilyn y digwyddiad.
"Dyw hyn ddim yn rhywbeth sydd wedi'i weld yn ein pentref erioed o'r blaen, ac rydw i mor falch o fod yn rhan o gymuned fel yr un yma," meddai.
"Mae'r digwyddiad wedi dangos i mi fod pawb yn dod at ei gilydd am y rhesymau iawn mewn cyfnodau anodd.
"Na, doedd dim marwolaethau, sy'n newyddion gwych, ond roeddwn i'n emosiynol iawn ar ôl dysgu bod dau o blant a'u mam wedi'u hanafu.
"Rwy'n siŵr 'mod i'n siarad dros bawb yn y pentref a Chwm Dulais wrth ddymuno gwellhad buan iddyn nhw."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Mehefin 2020