Dihangfa wrth ddychmygu diwedd y byd

  • Cyhoeddwyd
Yr apocalyps, nawr

Ydych chi erioed wedi meddwl beth fyddech chi'n ei wneud petai'n ddiwedd y byd? Efallai byddech chi'n anelu am faes awyr Caerdydd fel Brad Pitt yn y ffilm World War Z, neu'n mynd i fyw mewn tŷ yn Nebo?

Mewn podlediad hwyliog newydd ar BBC Sounds - Yr Apocalyps, nawr - mae Dylan Jenkins a Garmon ab Ion wedi gwahodd rhai o'u ffrindiau i ddisgrifio eu apocalyps perffaith.

Cafodd Cymru Fyw sgwrs gyda Dylan i ddarganfod mwy:

Mae ffilmiau apocalyptaidd fel 28 Days Later a Children of Men, a gemau cyfrifiadurol fel cyfres Fallout wedi bod o ddiddordeb i fi erioed. Dwi'n hoffi'r syniad fod posibiliadau diddiwedd wrth ddychmygu diwedd y byd.

Mae'n swnio'n eitha morbid, ond mae rhywbeth sydd bron yn rhamantus am ddychmygu'ch hunan mewn dyfodol ôl-apocalyptaidd, yn cerdded ar hyd y diffeithwch ar ryw fath o antur - dyna pam mae'r gemau a ffilmiau yma mor boblogaidd rili yndyfe, a dyna pam dwi'n meddwl ein bod ni wedi cael gymaint o hwyl efo'r podlediad yma.

Fe gafodd y penodau cyntaf eu recordio cyn dechrau argyfwng Covid-19, ac un peth sy'n ddiddorol iawn wrth wrando nôl ar y podlediad, gan ei fod e wedi ei recordio dros y misoedd yn arwain at y cyfnod hunan-ynysu, yw gweld ein ymatebion ni yn datblygu efo'r sefyllfa.

Ond dwi ddim yn meddwl fod y pod wedi fy mharatoi i at y cyfnod o gwbl, achos os mae'r pod wedi dangos un peth, mae wedi profi bod disgwyliadau pawb o sefyllfaoedd apocalyptaidd yn gwbl wahanol!

Disgrifiad o’r llun,

Dylan a Garmon gyda'r actores Gwyneth Keyworth, sef gwestai'r bennod gyntaf

'Un o'r gang'

I fi, un elfen o bodlediad neu raglen radio dda yw teimo fel eich bod chi yno o gwmpas y bwrdd, yn rhan o'r sgwrs, a'ch bod chi'n un o'r gang, bron a bod. Mae podlediadau fel rhai Elis James a John Robins ac Off Menu yn llwyddo i wneud hynny'n dda.

Mae'n ffordd ardderchog i ddod i 'nabod pobl, achos chi'n gwrando mewn ar sgwrs gwbl naturiol. Hyd yn oed gyda topic tafod-mewn-boch fel trafod cynlluniau diwedd y byd, ni dal yn dod i adnabod y gwestai yn well.

Mae elfen o'r podlediad yma yn gofyn i'r gwesteion feddwl am eitem bersonol, neu bryd bwyd olaf, neu gân derfynol, ac mae'r dewisiadau rheini oll yn helpu ni i ddod i 'nabod y gwesteion, ac mae fformat y podlediad yn llwyfan berffaith i drafod hynny.

Un o fy hoff bethau am recordio'r podlediad yw fod pob gwestai wedi fy synnu i. Mae'n grêt pa mor o ddifrif mae pawb wedi cymryd y sialens. Maen nhw wedi creu bydoedd newydd, cymeriadau newydd, realitis newydd, ac mae pob pennod yn amrywio yn ôl dychymyg y gwestai!

Mae pob un o'r gwesteion yn bobl creadigol iawn 'ta beth, felly doeddwn i ddim yn disgwyl cael fy siomi, ond ro'n i mor mor falch gyda'r ymateb gafon ni ganddyn nhw.

'Fformat berffaith'

Fy hoff bodlediad Cymraeg heb os yw Cawl Mympwy, wedi'i guradu gan Dyfan Lewis. Podlediad i rannu gweithiau llenyddol byrion yw e. Mae pob pennod yn amrywio, gan fod sgwennwyr gwahanol yn cyfrannu at bob un. Hyd ag y gwn i, mae'n rhywbeth na sy'n bodoli yn y Gymraeg yn y fformat yma.

Mae Dyfan hefyd wedi sefydlu Gwasg Peledr, ac mae'n cyhoeddi llyfr yn fuan, a bydd prynu'r llyfr fel llyfr llafar. Dwi'n sicr y bydd e'n sbarduno eraill i fod yn greadigol yn y fformat yma, ac mae hynny'n rhywbeth sy'n fy nghyffroi i, achos dwi'n meddwl fod e'n fformat berffaith i rannu gweithiau creadigol o'r fath.

Dwi hefyd yn mwynhau Does Dim Gair Cymraeg am Random gyda Llwyd Owen, achos mae'n sicr yn ysbrydoli'r teimlad yna bod y gwrandawr yn eistedd o gwmpas y bwrdd efo'r cyfranwyr. Ac er nad ydw i'n dilyn pêl-droed clybiau yn reddfol, mae Ligo yn bodlediad gwych hefyd.

Dwi'n ffan mawr o radio a phodlediadau - mewn ffordd, maen nhw'n teimlo fel fformatau fydd yn para' am byth.

Hefyd o ddiddordeb: