Grŵp twristiaeth â diffyg hyder yn Mark Drakeford

  • Cyhoeddwyd
Dinbych-y-pysgodFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae trefi glan môr fel Dinbych-y-pysgod bron yn hollol ddibynnol ar y diwydiant twristiaeth

Mae grŵp o atyniadau twristaidd wedi cyhoeddi pleidlais o ddiffyg hyder ym Mhrif Weinidog Cymru, Mark Drakeford.

Mae Cymdeithas Atyniadau Ymwelwyr Cymru (WAVA) yn honni y bydd y penderfyniad i atal atyniadau dan do rhag ailagor yn arwain at golli swyddi ac yn gyrru busnesau o'r fath i'r wal.

Cafodd WAVA, sy'n cynrychioli dros 50 o'r atyniadau mwyaf yng Nghymru, ei ffurfio er mwyn ceisio diogelu'r diwydiant ymwelwyr rhag effeithiau coronafeirws.

Mae'r grŵp yn feirniadol o strategaeth Llywodraeth Cymru, ac mae wedi bod yn ymgyrchu dros gynllun i ailagor atyniadau, fel sydd wedi'i gyhoeddi yn Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.

'Dinistrio gobeithion'

Roedd y grŵp eisoes wedi rhybuddio fod y diwydiant "ar fin dymchwel", ond ddydd Llun cyhoeddodd ddatganiad yn beirniadu strategaeth ailagor y llywodraeth ac yn cyhoeddi bod ganddyn nhw ddiffyg hyder yn y Prif Weinidog.

Mae'r corff, sy'n cynnwys busnesau fel Rheilffordd yr Wyddfa a chanolfan ogofâu Dan Yr Ogof, hefyd yn honni bod y llywodraeth yn "dinistrio gobeithion" atyniadau dan do o oroesi'r argyfwng presennol.

Yn ôl cadeirydd WAVA, Ashford Price: "Dywedodd y Prif Weinidog ar 19 Mehefin y byddai holl atyniadau Cymru yn cael ailagor ar 6 Gorffennaf, cyn belled a bod y rhif R yn parhau'n isel.

"Roedd hyn yn anghywir ac yn ddiweddarach datgelwyd y byddai pob atyniad dan do yng Nghymru yn gorfod aros ar gau."

Rheilffordd yr WyddfaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae cymdeithas WAVA yn cynnwys cwmnïau fel Rheilffordd yr Wyddfa

"Mae WAVA wedi gweithio gyda swyddogion Croeso Cymru yn ystod y pandemig," meddai Mr Price.

"Mae iechyd yn dod o flaen popeth arall, ac mae WAVA yn cefnogi hynny'n llwyr. Ond dydy WAVA ddim yn cefnogi'r gwaharddiad mympwyol gan y Prif Weinidog sy'n gwahardd atyniadau dan do Cymru rhag ailagor.

"Fe fydd y penderfyniad yma'n arwain at golli swyddi ac yn gorfodi nifer o fusnesau i fynd yn fethdalwyr."

'Costio miliynau i'r economi'

Dywed WAVA nad yw'r gwaharddiad wedi ystyried yr asesiadau risg unigol y mae gwahanol atyniadau dan do wedi eu gwneud dros y misoedd diwethaf.

Roedd y Prif Weinidog wedi gwrthod sawl cais gan atyniadau dan do i gael ailagor ar sail eu hasesiadau risg, meddai Mr Price.

"Cymharwch hyn gyda datganiad y Prif Weinidog y gallai siopau a siopau mawr ailagor nawr," meddai.

"Nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr fod pobl yn cael ymweld â siop sydd â nifer fawr o siopwyr eraill o'ch cwmpas, ond na chewch ymweld ag atyniad dan do sydd a'r gallu i reoli nifer yr ymwelwyr gyda system bwcio ymlaen llaw fel rhan o'r asesiad risg.

"Mae'r ffordd y mae o wedi delio ag ailagor y diwydiant twristiaeth wedi bod yn flêr a bydd yn costio miliynau i'r economi."

Mae'r BBC wedi gwneud cais am ymateb gan swyddfa'r Prif Weinidog.