Arwyddion hiliol yn ymddangos ar wal Cofiwch Dryweryn eto

  • Cyhoeddwyd
arwyddFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Swastika ac arwydd sy'n gysylltiedig â goruchafiaeth pobl wyn wedi'u paentio ar y wal

Mae arwyddion hiliol wedi ymddangos ar wal nodedig i goffau boddi Capel Celyn.

Mae'r arwydd gyda'r geiriau 'Cofiwch Dryweryn' wedi bod yn amlwg i deithwyr ar hyd ffordd yr A487 rhwng Aberystwyth a Llanrhystud ers yr 1960au.

Mae'r gofeb wedi ei hailbaentio sawl gwaith ac y llynedd fe gafodd rhan o'r wal ei chwalu.

Swastika ac arwydd sy'n gysylltiedig â goruchafiaeth pobl wyn sydd wedi'u paentio ar y wal yn yr achos diweddaraf o fandaleiddio.

Dywedodd yr Aelod Senedd dros Geredigion, Elin Jones fod y weithred yn "afiach" a bod yr heddlu yn ymchwilio.

Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges X gan Elin Jones

Caniatáu cynnwys X?

Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges X gan Elin Jones

Ar raglen Post Prynhawn ddydd Mawrth, dywedodd Elin Jones ei bod wedi siarad gyda phobl leol oedd wedi ymgasglu ar y safle i ailbaentio'r gofeb, a bod yna bosibilrwydd o ailosod camerâu diogelwch unwaith yn rhagor ar y safle.

"Cafodd camerâu eu defnyddio am gyfnod y llynedd a mae'n bosib iawn y byddant yn dychwelyd," meddai.

Ychwanegodd bod y graffiti diweddaraf "o natur fwy sinistr i gymharu â beth sydd wedi digwydd o'r blaen".

Mae gweithwyr cyngor wedi bod ar y safle yn peintio dros y sloganau - cam a gafodd ei awdurdodi gan Gyngor Ceredigion a Llywodraeth Cymru, gan fod y wal ar brif ffordd.

Apêl am wybodaeth

Cafodd graffiti 'Cofiwch Dryweryn' ei baentio yn y lle cyntaf yn yr 1960au gan y diweddar ysgolhaig Meic Stephens.

Mae'n cyfeirio at foddi pentref Capel Celyn ger Y Bala yn 1965 i greu cronfa ddŵr ar gyfer trigolion Lerpwl.

Fe wnaeth Heddlu Dyfed-Powys gadarnhau eu bod wedi derbyn adroddiad o graffiti ar y wal, a'u bod yn ymchwilio ymhellach i'r mater.

Maen nhw'n apelio am unrhyw wybodaeth ynghylch y digwyddiad, ac yn gofyn i bobl ffonio 101 os oes ganddyn nhw wybodaeth fyddai o gymorth.