Paentio'r gair 'Elvis' ar wal Tryweryn yn 'siom'

  • Cyhoeddwyd
walFfynhonnell y llun, Morys Gruffydd

Mae sawl person wedi datgan eu siomedigaeth ar ôl iddi ddod i'r amlwg fod rhywun wedi paentio'r gair 'Elvis' dros wal 'Cofiwch Dryweryn' ger Llanrhystud.

Roedd yr arwydd 'Cofiwch Dryweryn' wedi bod yn amlwg i deithwyr ar hyd ffordd yr A487 rhwng Aberystwyth a Llanrhystud ers i'r diweddar ysgolhaig Meic Stephens ei baentio yn y 1960au.

Ddydd Sul fe ddaeth i'r amlwg fod rhywun wedi paentio'r enw Elvis gyda chalon mewn lliw gwyn dros gefndir du, gan orchuddio'r neges wreiddiol 'Cofiwch Dryweryn'.

Dywedodd Morus Gruffydd o Rydyfelin wrth BBC Cymru Fyw ei fod yn "siomedig" o weld hyn ar "wal mor eiconig."

'Anwybodaeth'

Mae'r neges Cofiwch Dryweryn yn cyfeirio at foddi pentref Capel Celyn ger y Bala ym 1965 i greu cronfa ddŵr ar gyfer trigolion Lerpwl.

Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r fersiwn eiconig o'r arwydd 'Cofiwch Dryweryn'

Ychwanegodd Mr Gruffydd: "Roeddwn yn gyrru o Aberystwyth brynhawn Sul a sylwi ar y wal wedi ei gweddnewid.

"Er nad oes statws swyddogol i'r wal mae'n wal eiconig. Dwi'n siŵr fod y sawl sy'n gyfrifol ddim yn ymwybodol o'i arwyddocâd i ni'r Cymry.

"Felly dwi'n siŵr mai anwybodaeth sydd y tu ôl i hyn yn hytrach na malais.

"Fel arfer pan mae rhywbeth fel hyn yn digwydd mae rhywun yn ei phaentio'n ôl gyda'r neges wreiddiol, felly dwi'n gobeithio bydd hyn yn digwydd 'to," meddai.

'Gwarchod nid difrodi'

Mae AC Plaid Cymru, Bethan Sayed wedi ymateb i'r newyddion yn galw ar Lywodraeth Cymru i amddiffyn y wal yn yr un modd a gwaith Banksy ym Mhort Talbot.

"Siomedig iawn. Mae angen i Lywodraeth Cymru amddiffyn hwn yn yr un modd ac maen nhw nawr yn cael mewnbwn mewn i ddyfodol Banksy ym Mhort Talbot," meddai.

Dywedodd David Williams o Gymdeithas yr Iaith: "Mae hon yn gofeb i un o'r trychinebau mwyaf yn hanes diweddar Cymru.

"Dylai gael ei gwarchod, nid ei difrodi. Gobeithio y bydd yn cael ei hadfer yn fuan.

"Mae'r digwyddiad hwn yn dangos pwysigrwydd addysgu pawb yng Nghymru am ein hanes," meddai.