Marwolaethau coronafeirws yn gostwng eto yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
coronafeirwsFfynhonnell y llun, Getty Images

Fe wnaeth nifer y marwolaethau'n ymwneud â Covid-19 yng Nghymru ostwng i 39 yn yr wythnos hyd at 19 Mehefin, yn ôl ffigyrau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

Mae hyn yn ostyngiad o'r ffigwr o 57 marwolaeth yn yr wythnos cyn hynny, ond Cymru oedd â'r ganran uchaf drwy'r DU o'r hyn sy'n cael ei alw'n "farwolaethau ychwanegol".

Yn ôl yr ONS roedd cyfanswm o 2,408 o farwolaethau coronafeirws yng Nghymru hyd at 19 Mehefin.

Mae'r ffigwr hwnnw 921 marwolaeth yn uwch na ffigyrau Iechyd Cyhoeddus Cymru ar yr un pryd, gan mai cleifion sydd wedi cael prawf positif yn unig sy'n cael eu cynnwys yn eu ffigyrau nhw.

Mae data'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cynnwys marwolaethau ym mhob lleoliad, gan gynnwys adref neu mewn cartrefi gofal.

Yn ystod yr wythnos dan sylw, doedd yna ddim un farwolaeth yn ardal Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, oedd yn ganolbwynt cynnar i'r pandemig yng Nghymru.

Roedd dros hanner y marwolaethau - 21 - yn ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, gydag wyth o'r rheiny yn Sir Conwy.

Ni chafodd yr un farwolaeth ei chofnodi mewn naw awdurdod lleol yng Nghymru, gan gynnwys Ceredigion, Merthyr Tudful, Castell-nedd Port Talbot a Phenfro.

Roedd yna saith marwolaeth Covid-19 mewn cartrefi gofal - y nifer isaf ers dechrau'r pandemig. Mae marwolaethau mewn cartrefi gofal yn gyfystyr â 28% o'r holl farwolaethau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Roedd yna 44 o farwolaethau ychwanegol yn yr wythnos dan sylw, sy'n golygu mai Cymru oedd â'r ganran uchaf, sef 7.7%.

Mae'r ystadegau hynny'n cyfeirio at faint yn fwy o farwolaethau sydd wedi bod o'i gymharu â'r patrwm hanesyddol yn ystod yr un wythnos o'r flwyddyn dros gyfnod o bum mlynedd.

6.6% oedd y ganran uchaf yn Lloegr, a hynny yn Nwyrain y Canolbarth.

Dywed yr ONS fod yna 2,000 o "farwolaethau ychwanegol" hyd yma yng Nghymru eleni, a bod coronafeirws yn ffactor mewn 6.3% o'r holl farwolaethau ers dechrau'r flwyddyn.

Rhondda Cynon Taf yw'r sir â'r gyfradd uchaf o farwolaethau yng Nghymru - 121.6 i bob 100,000 o'r boblogaeth - sy'n golygu ei bod yn 21ain ymhlith holl awdurdodau lleol Cymru a Lloegr.