'Gall Cymru arwain y byd ym maes ynni o'r môr'
- Cyhoeddwyd
Fe all Cymru arwain y byd ym maes ynni o'r môr ac fe ddylai'r llywodraeth wneud y diwydiant yn flaenoriaeth, yn ôl Arglwydd Peter Hain.
Roedd yr Arglwydd Hain yn weinidog ynni yn 2001, ac fe ddywedodd fod "potensial enfawr heb ei gyffwrdd" o amgylch arfordir Cymru.
Wrth siarad â BBC Cymru dywedodd: "Mae llywodraethau eraill ledled y byd wedi dewis technolegau penodol a diwydiannau penodol, ac wedi buddsoddi ynddynt. Ac mae hynny'n golygu buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn ogystal â buddsoddiad preifat i yrru hyn ymlaen.
"Oni bai bod gennych chi gyfuniad o fusnes a'r llywodraeth yn gweithio gyda'i gilydd i harneisio'r adnodd ynni enfawr hwn, nid yw'n mynd i ddatblygu os bydd hynny'n digwydd. Gallai fod yn wych."
Ychwanegodd fod yr amser yn iawn ar gyfer datblygu cynlluniau ynni morol o bwys, er yr heriau economaidd sydd yn wynebu Cymru, y DU a gweddill y byd yn sgil y pandemig coronafeirws.
"Gyda'r dirwasgiad economaidd enfawr sy'n ein hwynebu, dyma'r amser i fuddsoddi gyda chefnogaeth y llywodraeth ac egni busnes i sicrhau ein bod wir yn gyrru hyn ymlaen," meddai.
"Nid yw hwn yn amser i eistedd yn ôl ac aros am ychydig flynyddoedd i ddod, pan fydd yr economi yn codi eto. Mae hyn er mwyn sicrhau bod yr economi'n codi'n fuan - trwy fuddsoddi nawr."
Mae mwy na 12 o brosiectau ynni morol yn cael eu datblygu o amgylch arfordir Cymru. Gobaith rhai yn defnyddio'r llanw i gynhyrchu trydan, ac mae eraill yn bwriadu defnyddio grym y tonnau.
Technoleg newydd
Ers sawl blwyddyn bu un cynllun sylweddol yn canolbwyntio ar ddatblygu morlyn llanw ym Mae Abertawe, dan ofal Tidal Lagoon Power yn gyntaf, ac yna fel rhan o gynllun Ddinas-Ranbarth Bae Abertawe.
Yn y dyddiau diwethaf mae anghydfod wedi datblygu rhwng Cyngor Abertawe a Tidal Lagoon Power, gyda'r cyngor yn dadlau fod caniatâd cynllunio'r datblygwr wedi dod i ben am hanner nos ar 30 Mehefin.
Fel y mwyafrif o dechnolegau newydd, y gost o ddatblygu cynlluniau o'r math yma sy'n arbennig o ddrud.
Roedd angen cymorthdaliadau sylweddol ar gynlluniau ynni gwynt ar y tir ac ar y môr i ddechrau, ond erbyn hyn maent yn cael eu hystyried fel ffyrdd o gynhyrchu trydan yn gymharol rhad.
Ond dywed Michelle Davies, Pennaeth Ynni Glân a Chynaliadwyedd cyfreithwyr Evershed Sutherland, fod yr hinsawdd economaidd yn rhwystr i brosiectau o'r fath.
Dywedodd: "Mae banciau a chronfeydd yn dweud wrth Lywodraeth y DU na fyddant yn gallu ariannu'r trawsnewid sylweddol yma mewn ffynhonnell ynni, neu os byddant yn gwneud hyn fe fydd yn rhy ddrud o achos dynameg marchnad y DU".
Pris ynni 'yn gostwng'
Ychwanegodd fod pris ynni wedi gostwng oherwydd effaith economaidd coronafeirws.
"Mae'r trawsnewid ynni yn gyfle enfawr i'r DU, ond ni fydd yn digwydd ar raddfa heb ddealltwriaeth yn gyntaf gan y llywodraeth o ddeinameg y farchnad.
"Ac yn ail, yn ôl mwyafrif llethol o'r rheini sy'n ariannu'r trawsnewid ynni oedd wedi ymateb i'n harolwg, mae angen i'r llywodraeth helpu gyda datrys y sefyllfa."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2019