'Dydw i heb gael fy arogl yn ôl ers cael Covid-19'

  • Cyhoeddwyd
Laura Wood
Disgrifiad o’r llun,

Mae Laura yn cynnal prawf arogli bob diwrnod

Y tro cyntaf iddi sylwi ei bod wedi colli'r gallu i arogli oedd wrth yfed paned o goffi yn ei chartref ym mhentre' Betws, Sir Gâr.

Dywedodd Laura Wood ei bod yn gallu synhwyro nad oedd bopeth fel y dylai fod, ac nad oedd hi chwaith yn gallu blasu'r fynsen oedd ar ei phlât.

Dim ond ar ôl i'w chwaer, sy'n nyrs, roi gwybod iddi ei fod yn un o'r symptomau Covid y cytunodd Laura i gael prawf, ac yna'r syndod o gael gwybod ei bod wedi dal yr haint.

"Ar y pryd roedd colli'r gallu i arogli ac i flasu ddim yn cael eu cydnabod fel rhai o'r symptomau," meddai Laura.

"Ro'n i'n teimlo wedi blino, ond doedd gen i ddim peswch na thymheredd, felly roedd e'n sioc fawr."

Ar ôl aros gartref a gwella'n raddol nôl ym mis Ebrill, fe sylweddolodd Laura nad oedd hi dal yn gallu arogli na blasu.

Dau fis ar ôl cael ei heintio - mae'r fam i dri nawr yn gorfod cael hyfforddiant arogli.

Disgrifiad o’r llun,

Merch Laura, Mari, yn ei helpu gyda'r prawf arogli

Mae hyn yn golygu ei bod yn cael gorchudd dros ei llygaid ac arogli gwahanol bethau fel coffi, polish esgidiau a gwahanol sbeisys.

Ond hyd yn hyn, heb unrhyw lwc.

"Rwy' wrth fy modd yn coginio, ond mae hyn wedi lladd y chwant oherwydd chi'n methu arogli - hyd yn oed pethau syml fel winwns, garlleg, cyw iâr yn y ffwrn - does yna ddim byd.

"Hefyd blas - rwy'n methu blasu dim."

Mae Laura wedi derbyn cymorth gan AbScent, mudiad sy'n cefnogi pobl yn ei sefyllfa hi.

Dywed yr elusen fod y niferoedd sy'n cysylltu â nhw wedi codi'n sylweddol, gyda nifer yn cwyno nad yw eu gallu i arogli wedi dod nôl.

Fe wnaeth Chrissi Kelly sefydlu'r elusen ddwy flynedd yn ôl ar ôl colli ei gallu i arogli yn dilyn salwch.

Dywedodd fod nifer aelodaeth eu grŵp Facebook wedi codi o 1,500 i 7,000 ers 13 Mawrth.

Gobaith Laura yw y bydd ei gallu i arogli yn dychwelyd yn y pendraw.

Cafodd yr anallu i arogli neu flasu ei gydnabod fel symptom o Covid-19 ar 18 Mai.

"Rwy'n gorfod aros yn bositif. Dwi ddim yn dweud nad yw'n bwysig, ond fe allai pethau fod llawer gwaeth.

"Dyw e ddim yn beth pleserus a byddwn i ddim am i rywun arall orfod diodde hyn.

"Rwy'n optimistaidd y bydd y gallu i arogli yn dod 'nôl."