Pam bod mwy o fenywod yn ymarfer corff yn y cyfnod clo?
- Cyhoeddwyd
Mae nhw mas ar y stryd yn rhedeg, yn eu hystafelloedd byw yn gwneud sesiwn gym rhithiol, neu yn y garej ar eu polyn dawnsio; mae'r dystiolaeth ddiweddara yn awgrymu bod mwy o fenywod yn ymarfer corff yng Nghymru nag arfer.
Yn ôl Dr Kelly Mackintosh o Brifysgol Abertawe mae modd priodoli'r cynnydd i "lai o ryngweithio cymdeithasol a theimladau o ansicrwydd".
"Mae hwn yn beth cadarnhaol go iawn," meddai mewn tystiolaeth i'r Pwyllgor Diwydiant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn y Senedd, "ac fe ddylen ni anelu at barhau gyda'r positifrwydd tu hwnt i'r cyfnod clo."
Bu BBC Cymru Fyw yn siarad â nifer o fenywod sydd wedi chwysu, chwalu a chynyddu ffitrwydd fwy nag arfer yn ystod y cyfnod clo.
Karen Roberts, Aberystwyth
"Y plant sydd wedi fy ysgogi i i wneud mwy o ymarfer corff. Wrth i ni gyd fod gatre, yn gweithio neu'n ceisio gwneud gwaith ysgol, yr unig ymarfer corff o'n i'n gwneud oedd cerdded nôl a mlaen i'r ffrij. Dwi wedi diodde o or-bryder ers ychydig ac o'n i'n sylwi nad o'n i'n cysgu'n dda o gwbl chwaith.
"Mae'r mab, Owen, yn ran o sgwad datblygu Gymnasteg Cymru, ac mae e wedi cario ymlaen i ymarfer drwy gydol y cyfnod o dan glo, ac mae' Caitlin y ferch wedi bod yn gwneud sesiynau ymarfer corff hefyd, ac o'n i'n meddwl i'n hunan "os oedden nhw'n gallu neud e, yna doedd dim esgus 'da fi".
"Felly fe ddechreuais i wneud sesiynau cylchredeg, neu circuits, gan ddefnyddio pwysau fy nghorff fy hunan. Dwi bellach yn gwneud chwech sesiwn yr wythnos ac yn mwynhau mas draw. Mae fy lefel ffitrwydd i wedi cynyddu lot, ac wy'n cysgu cymaint gwell. Ond dwi hefyd wedi dechre cynllunio ein bwydydd ni am yr wythnos, fel fy mod i'n gallu cadw golwg ar beth dwi'n ei fwyta.
"Mae'r cyfnod yma hefyd wedi neud i ni fel teulu wneud mwy gyda'n gilydd - ry'n ni wedi bod yn cerdded mwy, lan i Pen Dinas sydd ar bwys ein tŷ ni, ac allan yr awyr agored yn gyffredinol, ac ry'n ni wedi cael amser da.
"Sa i'n gweld pam na allen i fod yn parhau gyda'r lefel yma o ymarfer corff ar ôl i'r cyfnod yma ddod i ben, achos fe allen i fod yn ei wneud e tra bo fi'n aros i'r plant wneud eu gwersi ar ôl ysgol. Fi bendant ishe cario ymlaen gydag e."
Lynsey Anne Thomas, Llandysul
"Ro'n i'n arfer teithio dair awr y dydd o fy nghartref i Brifysgol Abertawe, dair gwaith yr wythnos, ac er bo fi wedi bod yn rhedeg yn eitha' cyson - ac wedi cwblhau hanner marathon Caerdydd y llynedd - doedd dim modd i mi wneud hynny mor aml ac y gallen i achos bod y gŵr yn gweithio bant hefyd.
"Ond yn ystod y cyfnod clo fe gafodd e waith yn nes at adre, a rhwng hynny a'r ffaith nad ydw i'n y car cymaint, dwi wedi ffeindio bod gen i fwy o amser i fynd mas i redeg. Yr eiliad ma fe'n cerdded mewn trwy'r drws, dwi'n mynd allan - ni fel rhyw tag-team!
"Dwi wrth fy modd yn mynd ar yr un llwybr bob dydd, ac ar y dechre dyna oedd yr unig bryd o'n i'n llwyddo i weld pobl! O'n i'n mwynhau eu gweld nhw'n chwifio llaw arna i wrth i fi redeg heibio.
"Dwi yn derbyn na fydda i'n gallu cadw at yr nifer o sesiynau pan fydd pethe'n dychwelyd i normal, achos mi fydda i nol yn y car eto. Ond mae e wedi bod o fudd mawr i mi yn ystod y cyfnod od iawn yma."
Heledd Bianchi, Treherbert
"Ma saith o blant gyda ni adre, felly mae ymarfer corff wastad wedi bod yn rhyw fath o ddihangfa i fi. Ond yn ystod y cyfnod clo dwi wedi ffeindio bo fi wedi cael mwy o amser i ddychwelyd at bethe o'n i'n arfer mwynhau eu gwneud.
"Mae gen i bolyn yn y garej, ac aerial hoop, ac o'n i'n arfer teithio awr a hanner o'r dre i Gaerdydd i gael gwersi. Ond nawr bod dim modd i ni deithio dwi wedi bod yn gallu cael sesiynau dros y we gyda'r hyfforddwyr. Dwi'n falch bo fi wedi gallu ail-gydio mewn rhyw beth o'n i'n mwynhau ei wneud ac mae'r plant wedi bod yn ymuno 'da fi yn y sesiynau hefyd.
"Oherwydd y lockdown ni di bod yn neud mwy o chwilota ar y mynyddoedd yn lleol hefyd, yn enwedig pan o'dd y tywydd mor ffafriol. Mae e'n dda i iechyd meddwl ni i gyd i fod mas yn cerdded, a fi'n dwli bod tu allan. Mae Mynydd Penpych tu ôl y tŷ, felly mae wedi bod yn hyfryd crwydro fanno a darganfod llwybrau newydd.
"Ma pwll padlo eitha mawr 'da ni yn yr ardd nawr a dwi yn mynd i ddechre gwneud tethered swimming ynddo fe. Ma triathletes yn defnyddio'r ffurf yma, ac o'dd e'n apelio ata i achos o'n i'n arfer bod yn athrawes nofio. Ro'n i wir yn gweld ei eisiau. Bydd e'n barod o fewn wythnos."
Nia Elain, Bethel
"Gethon ni Barti, ein ci cockapoo, ar 27 Rhagfyr 2019, a holl bwrpas ei gael oedd y byddai hynny'n ein gorfodi ni fel teulu i wneud mwy o ymarfer corff.
"Mae'n gi ifanc iawn, ac mae ganddo lot o egni. Ac felly ro'n ni'n mynd allan hyd at dair gwaith y dydd er mwyn mynd ag o am dro. Rhwng Dolig a Phasg mi gollais i stôn am fy mod i'n ei gerdded o ac fe sylwais i bod fy lefel ffitrwydd wedi cynyddu ers ei gael o.
"Yn ystod y cyfnod clo mae o wedi neud i ni godi oddi ar ein penolau a gwneud rhwbeth. Da ni wedi bod yn mynd am dro fel teulu ac wedi mwynhau bod allan yn yr awyr agored.
"Yn anffodus, penwythnos y Pasg, na'th Barti dorri ei goes. Bu'n rhaid iddo fo fod yn ei gaetsh am chwech wythnos. Ac mi sylwon ni i gyd bod ein ffitrwydd ni wedi diodde. Doedd yr awydd i neud rhwbeth ddim cymaint adeg hynny - ac mi ddechreuodd y pwysau fynd yn ôl ymlaen. Ond nawr bod o'n well 'da ni nôl allan yn cerdded yn aml eto."
Nerys Hurford, Creigiau
"Wi'n gwneud ymarfer corff yn weddol reolaidd ers rhyw 20 mlynedd. Mae hanes o diabetes yn y teulu felly mae'r angen i edrych ar ôl fy iechyd yng nghefn fy meddwl o hyd. Mae gen i broblemau gyda'r cymalau SI ar waelod fy nghefn, felly mae ymarfer corff yn ffordd dda iawn o gadw'n ystwyth ac osgoi stiffrwydd.
"Ers y llynedd mynd i'r gampfa oeddwn i tua tair gwaith yr wythnos gyda'r nos neu ar y penwythnos i ddosbarthiadau. Yn ystod y cyfnod diweddar yma, wi wedi bod yn amrywio tipyn ar yr arlwy ac wedi bod yn seiclo gyda'r plant, gwneud ioga, HIIT, ac wi hyd yn oed wedi bod yn rhedeg yn hwyr yn y nos i osgoi gwres haul y dydd a'r demtasiwn i fwyta hufen iâ!
"Roeddwn i'n gwybod ar ddechrau'r cyfnod clo y gallai'r cyfan fynd allan drwy'r ffenestr oni bai mod i'n dal ati a gorfodi fy hun. Wy'n dda iawn am wastraffu amser cyn mynd allan i redeg er enghraifft, yn chwilio am unrhyw beth arall i wneud jyst er mwyn peidio â gwthio fy hun... ond mynd wnaf fi yn y pen draw gan amlaf.
"Y gyfrinach i fi yw fy mod i wedi mynd ati'n fwriadol i wisgo dillad ymarfer corff bob bore - os yw'r dillad amdana i, mae 80% o sicrwydd y gwnaf fi rywbeth. Os bydda i'n gwisgo dillad cyffredin, mae'n annhebygol iawn yr af fi i newid er mwyn gwneud rhywbeth egnïol! Seicoleg!!"
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd29 Ebrill 2020