'Staff ffatri'n parhau i weithio cyn cael canlyniadau'
- Cyhoeddwyd
Mae gweithwyr mewn ffatri fwyd yn Wrecsam sy'n gysylltiedig ag achosion o'r coronafirws wedi bod yn gweithio tra'n aros am ganlyniadau eu profion, yn ôl gwybodaeth sydd wedi dod i law BBC Cymru.
Dywedodd un o weithwyr Rowan Foods ei fod e wedi gweithio shifft 10 awr rhwng cael ei brofi a darganfod bod ganddo'r feirws.
Mae'r safle wedi'i gysylltu â 289 o achosion. Mewn datganiad dywedodd Rowan Foods nad yw'r feirws "yn ymledu ar ein safle".
Yn y cyfamser mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi ymddiheuro am oedi wrth ddarparu canlyniadau profion i weithwyr.
"Wirioneddol anniogel"
Mae gweithwyr yn Rowan Foods wedi dweud wrth y BBC o'r blaen nad oedden nhw'n teimlo'n ddiogel yn y ffatri a'i bod hi'n "amhosibl" ymbellhau'n gymdeithasol ar y safle.
Dywedodd gweithiwr a brofodd yn bositif am y feirws wrth raglen Politics Wales BBC Cymru fod y cwmni wedi dweud wrth gweithwyr i "ddod i'r gwaith nes eich bod wedi cael canlyniadau eich profion".
"Rwy'n credu ei fod yn wirioneddol anniogel oherwydd dydych chi ddim yn gwybod," meddai. "Efallai bod ganddyn nhw [Covid-19] ac efallai eu bod nhw'n ei ledaenu heb eu bod nhw'n gwybod."
Ychwanegodd fod y cwmni "wedi bod yn rhoi gwaith o flaen diogelwch staff".
Roedd llawer o weithwyr yn amharod i gymryd amser o'r gwaith, meddai, gan mai dim ond £94 yr wythnos y bydden nhw'n ei gael mewn tâl salwch statudol.
Honnodd partner gweithiwr arall a gafodd ei brofi ar 22 Mehefin ei fod yn dal i aros am ei ganlyniad ar 3 Gorffennaf, a'i fod yn parhau i weithio yn y cyfamser.
Dywedodd fod yr oedi yn "ein gwneud ni'n nerfus", yn enwedig gan fod ganddi broblemau iechyd yn barod.
"Dydyn ni ddim yn gwybod a oes ganddo'r feirws ai peidio…dydw i ddim yn gwybod a yw'n mynd i ddod ag e i'r tŷ."
Honnodd hefyd fod gweithwyr yn cael amser caled gan y gymuned leol. "Nid bai'r gweithwyr yw hyn. Mae'n rhaid iddyn nhw ofni mynd i'r gwaith. Mae'n ffiaidd," meddai.
Lles staff a'u teuluoedd yn flaenoriaeth
Wrth ymateb i honiadau blaenorol ei bod hi'n amhosibl cadw pellter cymdeithasol ar y safle, dywedodd y cwmni bod mesurau wedi'u cyflwyno ym mis Mawrth i amddiffyn gweithwyr.
Yn dilyn yr honiadau diweddaraf, dywedodd Rowan Foods mai eu "prif bryder trwy gydol y pandemig yw iechyd a lles ein staff a'u teuluoedd".
Ychwanegodd y cwmni nad yw'r feirws "yn ymledu ar ein safle" ac "ni chaniateir i unrhyw un sydd â symptomau fynd i'r safle".
"Pe bai ein safle wedi bod yn gyfrifol am yr achosion a rhoi ein staff mewn perygl, byddem wedi cau.
"Yn lle rydyn ni'n gwneud y peth iawn i'n gweithwyr".
Ychwanegodd y cwmni: "O 1 Mehefin, ni fydd unrhyw un o dan anfantais ariannol trwy wneud y peth cyfrifol ac ynysu lle bo angen".
"Ymddiheuro" dros oedi
Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru eu bod yn ymwybodol bod rhai gweithwyr wedi gweld oedi cyn cael canlyniadau eu profion "ac rydym yn ymddiheuro am hyn".
"Bydd olrhainwyr cyswllt wedi cysylltu â'r unigolion hynny sydd wedi profi'n bositif, hyd yn oed os nad ydyn nhw wedi derbyn eu canlyniadau eto, fel rhan o'r broses Profi, Olrhain, Diogelu.
"Bydd cydweithwyr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gweithio dros y 48 awr nesaf i gysylltu â phob unigolyn yn Rowan Foods nad ydyn nhw wedi derbyn eu canlyniadau eto."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd23 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf 2020