Pump yn rhagor o farwolaethau Covid-19 yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cadarnhau bod pum person yn rhagor wedi marw ar ôl cael prawf Covid-19 positif yn y 24 awr ddiwethaf.
Mae hynny'n golygu bod cyfanswm y marwolaethau yng Nghymru erbyn hyn yn 1,530.
Cafodd 34 o achosion positif newydd o'r feirws eu cofnodi, gan ddod â'r cyfanswm i 15,875 ers dechrau'r pandemig.
Cafodd 2,949 o brofion eu cynnal ddydd Gwener.
Bellach mae 192,428 o brofion wedi eu cynnal ar 146,211 o unigolion.
Roedd 130,336 prawf yn negyddol.

Dyma'r map sy'n dangos nifer y marwolaethau ym mhob ardal yng Nghymru
Mae ffigyrau Iechyd Cyhoeddus Cymru ond yn cynnwys marwolaethau mewn ysbytai, ac yn is na rhai'r Swyddfa Ystadegau Gwladol sy'n cynnwys marwolaethau ym mhob lleoliad, gan gynnwys adref neu mewn cartrefi gofal.
Sefyllfa ddiweddaraf tair ffatri prosesu bwyd
Dywedodd Dr Chris Williams, o Iechyd Cyhoeddus Cymru fod chwech o'r achosion newydd wedi eu codi wrth brofi gweithwyr ffatri Rowan Foods yn Wrecsam.
Mae hynny'n golygu bod 289 o achosion bellach sy'n gysylltiedig â'r ffatri. Mae hynny "yn unol â'r hyn byddwn yn ei ddisgwyl", meddai Dr Williams, yn sgîl system brofi wedi'i thargedu'n benodol gan dîm aml-asiantaeth.

Mae 289 o achosion Covid-19 wedi dod i'r fei wedi i brofion gael eu cynnal ar weithwyr Rowan Foods
Ychwanegodd fod sefyllfa'n "parhau'n galonogol" yn ffatri 2 Sisters yn Llangefni. Mewn cyfarfod ddydd Gwener fe nodwyd taw dim ond un achos newydd oedd wedi'i gofnodi, gan ddod â'r cyfanswm i 218.
Un achos newydd yn unig sydd hefyd wedi'i gofnodi yn ffatri brosesu cig Kepak, ym Merthyr, sy'n golygu fod 135 o bobl yn fanno wedi cael prawf Covid-19 positif.
Pwysleisiodd Dr Williams fod angen cadw i'r rheolau presennol, nes bydd rhai o'r cyfyngiadau'n cael eu codi ddydd Llun, gan y rheol aros yn lleol.
Mae'r cyngor hefyd yn parhau i olchi dwylo, osgoi teithio diangen a chadw pellter cymdeithasol.


Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd28 Mehefin 2020