'Ddim yn glir' pa mor gyflym yw system olrhain Cymru

  • Cyhoeddwyd
Graffeg cysylltiadauFfynhonnell y llun, Getty Images

Dyw hi ddim yn "glir" pa mor gyflym mae system olrhain cysylltiadau Cymru'n gweithio, yn ôl y Gweinidog Iechyd.

Dywedodd Vaughan Gething fod pobl yn derbyn galwad ffôn "mewn mater o ddyddiau ond yr hyn rwyf angen nawr yw mwy o fanylion".

Mae ystadegau Llywodraeth Cymru'n dangos fod 81% o achosion coronafeirws positif wedi'u holrhain rhwng 21 a 27 Mehefin, dolen allanol, a 84% o'r bobl fu mewn cysylltiad agos â'r unigolion hynny wedi eu canfod yn llwyddiannus.

Ond dyw'r ystadegau ddim yn cadarnhau pa mor hir yw'r cyfnod rhwng cysylltu â pherson sydd wedi cael prawf Covid-19 positif a gofyn i bobl fu mewn cysylltiad â nhw i hunan-ynysu.

Cafodd system profi, olrhain a gwarchod Llywodraeth Cymru ei lansio ar 1 Mehefin.

Mae'n golygu cysylltu â phobl sydd wedi cael prawf coronafeirws positif, a chasglu gwybodaeth am bawb fuon nhw mewn cysylltiad â nhw tra bod symptomau arnyn nhw.

Y cam nesaf yw cysylltu â'r bobl rheiny a'u cynghori i hunan-ynysu am 14 diwrnod i osgoi lledu'r feirws ymhellach.

'Rhaid cael y data'n gywir'

Ond ar raglen Sunday Politics Wales, dywedodd Mr Gething na chafodd ystadegau ynghylch hyd y broses honno mo'u cyhoeddi hyd yn hyn oherwydd "mae'n rhaid i ni gael y data'n gywir, fel nad ydyn ni'n rhoi gwybodaeth gamarweiniol i'r cyhoedd".

Vaughan Gething
Disgrifiad o’r llun,

Mae sawl cam ar waith i wella'r trefniadau, medd Vaughan Gething

Pan ofynnwyd a oedd yna ddata preifat i ddangos pa mor gyflym mae'r system yn gweithio, atebodd: "Dyw e ddim yn glir oherwydd mae yna bethau mae angen i ni ddatrys yn y system wrthgefn... sicrhau bod yr holl systemau yna'n gweithio.

"Rwy'n gwybod ein bod yn cyrraedd dros 84% o'n cysylltiadau, a'n bod yn eu cyrraedd mewn mater o ddyddiau, ond yr hyn rwyf angen nawr yw mwy o fanylion ynghylch faint o bobl rydym yn eu cyrraedd o fewn 24 awr o wybod pwy yw'r cysylltiadau, faint o fewn 35 awr, 48 awr, ac yn y blaen.

"Galla'i ddim rhoi'r union fanylion ar y pwyntiau hynny oherwydd mae'n newid o ddydd i ddydd."

Mae cyflymder prosesu profion Covid-19 yn rhan allweddol o'r system, ac fe ddangosodd ffigyrau newydd yr wythnos hon fod cyfran y profion sy'n cael eu cwblhau o fewn 24 awr wedi gostwng i 35.1% ychydig wythnosau yn ôl.

Dangosodd data newydd ynghylch perfformiad wythnosol y system fod 49.4% o'r canlyniadau wedi eu prosesu o fewn diwrnod yr wythnos ddiwethaf, a 74.4% o fewn deuddydd.

Mae ymgynghorwyr gwyddonol y llywodraeth wedi dweud fod y systemau olrhain cysylltiadau mwyaf llwyddiannus yn ddibynnol ar gael canlyniadau o fewn 24 awr.

Mwy am coronafeirws
Mwy am coronafeirws

Ar yn un rhaglen ar 14 Mehefin, dywedodd Mr Gething: "Rydym yn cael tua 90% o fewn 48 awr a dyna sydd angen i gael system effeithiol."

Ond mae'r ffigyrau wythnosol yn dangos fod nifer y profion sy'n cael eu prosesu o fewn 48 awr wedi bod o dan 90% ers yr wythnos hyd at 17 Mai.

Offer profi am y feirwsFfynhonnell y llun, Reuters

Mewn ymateb i'r ystadegau hyn, dywedodd Mr Gething ddydd Sul: "Rydym yn derbyn y ffigyrau wrth edrych yn ôl... y pwynt yw ein bod yn edrych i weld be allen ni wella.

"Rydym eisoes â rhaglen ar ystod o fesurau bach all, gyda'i gilydd, sicrhau gwelliant.

"Felly, [ffactorau fel] pa mor rheolaidd mae'r canlyniadau'n cael eu casglu, sut a lle maen nhw'n cael eu postio, be sy'n digwydd pan fo'r canlyniadau'n cael eu rhoi i bobl.

"Mae'r holl bethau hyn yn gwneud gwahaniaeth i'n gallu i gymryd camau pellach i ddatgloi rhannau eraill o'r bywyd cyhoeddus a phreifat."

'Sgandal'

Dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Angela Burns: "Mae'n sgandal taw ond hanner canlyniadau profion Covid yng Nghymru sy'n cael eu cwblhau mewn diwrnod, o'i gymharu â dwy ran o dair nifer debyg o brofion dyddiol ychydig wythnosau'n ôl.

"Rhaid i weinidogion fynd i'r afael â hyn... a sicrhau fod system brofion effeithiol mewn grym yng Nghymru wrth i ni ailagor Cymru."