Ergyd ariannol 'enfawr' canslo Eisteddfod Llangollen

  • Cyhoeddwyd
Tref Llangollen
Disgrifiad o’r llun,

Byddai hyd at 40,000 wedi dod i Langollen yr wythnos hon i fynychu'r Eisteddfod Ryngwladol

Fe fyddai'r Eisteddfod Ryngwladol yn Llangollen wedi wynebu dyfodol ansicr oni bai am nawdd gan Lywodraeth Cymru, yn ôl cadeirydd yr ŵyl.

Wrth siarad â BBC Cymru fe ddywedodd y cadeirydd Rhys Davies y gallai'r Eisteddfod wedi wynebu colledion o "gannoedd ar filoedd" oni bai am grantiau i gefnogi'r ŵyl.

Mae heddiw yn nodi dyddiad dechrau arferol yr Eisteddfod Ryngwladol - ond fel gymaint o wyliau diwylliannol, mae'r Eisteddfod wedi ei chanslo.

Mae dros £800,000 o gyllid wedi ei rannu rhwng yr Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen "i helpu gyda pharhad busnes yn ystod 2020", yn ôl Llywodraeth Cymru.

Mae'r ŵyl yn adnabyddus fel un swnllyd, lliwgar ac yn dod â pherfformwyr o bedwar ban byd at ei gilydd. Ond eleni bydd pont eiconig y dref yn wag.

Disgrifiad o’r llun,

Y cigydd, Gwyn Davies

Wrth i wledydd y byd geisio dygymod â'r feirws, dyma fydd y tro cyntaf i'r ŵyl beidio â chael ei chynnal yn hanes hirfaith yr Eisteddfod o 73 mlynedd.

"Mae bob man wedi cau, yr Eisteddfod, y sioeau", meddai cigydd lleol, Gwyn Davies.

"Mae'r tafarndai wedi cau felly mi fydd rheini yn colli allan, byddan."

Mae'r Eisteddfod yn Llangollen fel nifer o ddigwyddiadau mawr wedi gorfod meddwl am ffyrdd amgen i gyfleu ysbryd yr ŵyl, ond i'r gymuned leol mae canslo'r digwyddiad yn ergyd.

Disgrifiad o’r llun,

Cadeirydd Eisteddfod Ryngwladol Llangollen ydy Rhys Davies

"Mae lot wedi cael problemau yn enwedig tafarndai, y bwytai a'r siopau ac wrth gwrs y gwestai," meddai cadeirydd yr ŵyl, Rhys Davies.

"Y peth ydi, mae pawb yn y wlad wedi cael problemau ac maen nhw gyd ar gau ar hyn o bryd ar ôl Covid-19."

Tra bod y gymuned ehangach yn dioddef o achos y feirws mae'r effaith ariannol ar yr ŵyl yn enfawr.

"Gallai fo bosib wedi bod yn y cannoedd ar filoedd heb y cymorth gan y Senedd a 'da ni'n ddiolchgar iawn am y cymorth 'da ni weld cael ganddyn nhw," meddai Mr Davies.

"Heb y cymorth dwi'n siŵr byddai wedi bod yn broblem cario 'mlaen ond hefo'r arian dwi'n siŵr byddwn ni yma'r flwyddyn nesaf."

Disgrifiad o’r llun,

Llinynnau soniarus Ensemble Guzheng yn perfformio yn Llangollen yn 2018

Er na fydd cyfle i gystadlu yn yr Eisteddfod eleni mae 'na gyfle i olrhain yr hanes.

Mae cwmni Rondo wedi uwchlwytho rhai o berfformiadau mwyaf llwyddiannus yr ŵyl ers canol y '90au i wylwyr fwynhau a chynnal ysbryd yr Eisteddfod a'r neges o ewyllys da.

Yn ôl Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, Eluned Morgan mae'r Eisteddfod yn ddigwyddiad o "bwys yng nghalendr digwyddiadau Cymru, sy'n darparu llwyfan gwych i arddangos ein celfyddydau a'n diwylliant".

Bydd modd gwylio'r perfformiadau o Eisteddfodau gynt drwy fynd ar wefan Llangollen TV.