Cynlluniau i godi ffatri ym Mhen-y-bont wedi dod i ben

  • Cyhoeddwyd
Artistic impression of future aerial view of the Ineos plantFfynhonnell y llun, Ineos
Disgrifiad o’r llun,

Fe fyddai ffatri Ineos ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi creu 200 o swyddi i ddechrau

Mae cwmni Ineos wedi dweud bod eu cynlluniau i adeiladu ffatri cerbydau gyriant 4x4 ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi dod i ben am y tro.

Daw eu penderfyniad, medd llefarydd, wedi trafodaethau gyda chwmni Mercedes-Benz am safle yn Moselle yn Ffrainc.

Fe fyddai'r ffatri yng Nghymru wedi cael ei chodi drws nesaf i ffatri Ford - ffatri fydd yn cau yn yr hydref gan golli 1,700 o swyddi.

Roedd disgwyl i ffatri Ineos greu 200 o swyddi i ddechrau a'r nod oedd cynhyrchu 25,000 o gerbydau y flwyddyn.

'Cam mawr yn ôl'

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething bod y penderfyniad yn un "siomedig iawn".

Wrth siarad yng nghynhadledd ddyddiol Llywodraeth Cymru dywedodd: "Os ydyn nhw [Ineos] yn penderfynu peidio gwneud y buddsoddiad, byddai hynny yn gam mawr yn ôl i Ben y Bont ac yn ddiwrnod anodd i bobl sydd yn edrych i'r dyfodol."

Ychwanegodd fod trafodaethau yn parhau ac y byddai gan weinidog yr economi Ken Skates "fwy i ddweud yn yr oriau nesaf".

Mewn datganiad, mae Ineos yn dweud bod argyfwng Covid-19 wedi arwain at ormodedd difrifol o allu cynhyrchu o fewn y diwydiant moduro yn Ewrop.

Ffynhonnell y llun, Ineos
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y Grenadier 4x4 newydd i fod i gael ei adeiladu yn y ffatri

Yn ôl yr Aelod lleol o'r Senedd, Carwyn Jones, arian sydd wrth wraidd y penderfyniad i beidio adeiladu'r ffatri, nid Covid-19.

"Dwi ddim yn derbyn am funud bod hwn yn rhywbeth i 'neud â Covid," meddai AS Pen-y-bont ar raglen Dros Ginio brynhawn Mawrth.

"Mae hwn yn benderfyniad bo' nhw ddim isie buddsoddi yn y Deyrnas Unedig. Does dim rhagor iddo fe yn ym marn i.

"Fi di clywed llawer o bethau mewn gwleidyddiaeth ar hyd y blynyddoedd ond dwi erioed wedi gweld hyn o'r blaen, lle mae cwmni yn gweud bo' nhw moyn cefnogi'r Deyrnas Unedig ond unwaith mae'r arian ar y ford, nage 'na beth maen nhw'n 'neud.

"Tase ffydd gyda nhw yn y Deyrnas Unedig ac yng Nghymru, os y'n nhw mor gryf o'u barn bod nhw moyn buddsoddi yn y Deyrnas Unedig, bod e'n beth da bod y Deyrnas Unedig y tu fas i Ewrop, pam bo' nhw'n gweud nawr bod nhw'n mynd i fuddsoddi yn yr Undeb Ewropeaidd?

"Mae pennaeth y cwmni Jim Ratcliffe wedi gweud sawl gwaith faint mor dda yw Brexit a faint o fuddsoddiad byddai'n mynd mewn i'r Deyrnas Unedig ond wrth gwrs, beth sydd 'di digwydd nawr yw maen nhw di tynnu mas o'r Deyrnas Unedig a mynd syth i'r Undeb Ewropeaidd.

"Wy'n grac dros ben - o'dd 'na gytundeb a ma' nhw di mynd nôl ar hwnna."