Pennaeth iechyd: Dylid ystyried o ddifri gwisgo mygydau
- Cyhoeddwyd
Fe ddylai pobl "ystyried o ddifri" gwisgo mygydau yn enwedig "mewn sefyllfaoedd cyfyng" yn ôl pennaeth y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.
Roedd Dr Andrew Goodall yn ymateb i gwestiwn yng nghynhadledd ddyddiol Llywodraeth Cymru ynglŷn â galwadau i orfodi pobl i wisgo mygydau mewn mannau cyhoeddus.
Dywedodd er nad oedd gwisgo mygydau mewn mannau cyhoeddus yn orfodol yng Nghymru, "mae'n cael ei argymell yn gryf" ac mae hyn yn cyd-fynd gyda chyngor Sefydliad Iechyd y Byd (WHO).
Ddydd Mercher, dywedodd WHO eu bod yn arolygu tystiolaeth am y modd mae'r feirws yn cael ei drosglwyddo.
"Dyw Sefydliad Iechyd y Byd heb wneud penderfyniad terfynol," meddai.
"Ond pe bai cyngor Sefydliad Iechyd y Byd yn newid yna byddai Cymru hefyd yn arolygu'r sefyllfa."
Ar hyn o bryd mae gwisgo mygydau mewn rhai sefyllfaoedd cyhoeddus yn cael ei argymell gan Lywodraeth Cymru, ond nid yw'n orfodol.
Trafnidiaeth gyhoeddus
Yn Lloegr mae gwisgo mygydau yn orfodol ar drafnidiaeth gyhoeddus ac fe fydd gwisgo mygydau i fynd i siopau yn orfodol yn yr Alban o 10 Gorffennaf.
Yn gynharach yn y Senedd ddydd Mercher dywedodd y prif weinidog Mark Drakeford na fyddai gwisgo masgiau yn "datrys popeth" wrth daclo coronafeirws.
Dywedodd Mr Drakeford y byddai'r llywodraeth yn parhau i adolygu'r dystiolaeth.
Ond ychwanegodd bod prif swyddog meddygol Cymru, Dr Frank Atherton yn poeni y byddai pobl oedd yn gwisgo mygydau yn "ymddwyn mewn ffyrdd allai gynyddu'r risg" o ymledu'r haint.
Mae arweinydd Plaid Cymru, Adam Price wedi galw am "symud tuag at system orfodol o ran gwisgo masgiau mewn amgylchiadau cyhoeddus y tu fewn" wrth i'r mesurau Covid-19 gael eu llacio.
"Mae'r wybodaeth ddiweddara' gan wyddonwyr a'r penderfyniad gan Sefydliad Iechyd y Byd i dderbyn bod yna awgrym nawr bod y feirws yn gallu cael ei gludo ar yr aer, yn golygu bod yn rhaid i ni symud tuag at y math o bolisi ry'n ni'n weld ar fasgiau yn yr Alban a chael canllawiau," meddai ar raglen Post Cyntaf BBC Radio Cymru.
"Mae'n rhaid i ni ymateb yn fuan iawn i'r dewis sy'n dod a rhoi canllawiau i gwmnïau a siopau ac adeiladau cyhoeddus o ran systemau awyru ac yn y blaen am y gall hyn fod yn ffordd arall amddiffyn pobl."
Ychwanegodd y bydd ef ei hun yn gwisgo mwgwd yn y Senedd heddiw pan mae'n debygol o fod "yn agos at bobl eraill".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd15 Mai 2020