Cofio lladrad trên yr Irish Mail
- Cyhoeddwyd
Yn ystod oriau mân y bore ar Awst 8, 1963, fe ddaeth hanes y Great Train Robbery ag enwau Bruce Reynolds, Ronnie Biggs a Jimmy White a deuddeg dyn arall, yn enwog ar draws y wlad, yn eu rhan yn yr hyn a elwid ar y pryd yn drosedd y ganrif. Fe lwyddon nhw i ddwyn £2.6 miliwn oddi ar drên y Post Brenhinol a oedd yn teithio o Glasgow i Lundain y noson honno.
Chwe mis ynghynt, ar noson aeafol ym mis Chwefror, roedd y dihirod wedi dwyn o drên arall, sef yr Irish Mail a oedd yn teithio o Lundain i Gaergybi yn hwyr y nos. Roedd Mr Howel Owen, sydd bellach yn 94 oed, yn gweithio fel gard ar y trên ac yn ddigon anffodus i ddod ar eu traws.
Mae'n adrodd hanes y noson ryfeddol honno:
Roedd trên yr Irish Mail, efo pymtheg o carriages arni hi yn rhedeg o Gaergybi i Lundain ac yn ôl bob nos, gan adael Caergybi am un o'r gloch y bore. Roedd yn teithio yn ôl o Lundain am 20:45 y nos, a'r noson arbennig hon, yng nghanol Chwefror, roedd hi'n ofnadwy, yn oer iawn a chwe modfedd o eira ar y llawr.
Roedd y postmyn wedi llenwi fy fan i fyny hefo'r mail, dim ond rhyw 87 o bobl oedd ar y trên y noson honno. Fel arfer byddai yna tua 200-300, ond am bod hi'n dywydd mor fawr doedd 'na neb yn trafeilio.
Ymosodiad
Ro'n i wedi rhoi clo ar y catch cyn i fi adael y fan, cloi'r drws i'r coridor i fynd i helpu Tom, dyn y tocynnau. Pan o'n i'n gadael y fan, oedd 'na ddyn yn sefyll pen draw'r coach, a pan o'n i'n dod yn ôl oedd o dal wrth y drws.
"Do you have your ticket ready please?", medda fi. Oedd o'n ddyn reit neis o'n i'n feddwl. Roedd 'na bedwar dyn yn y compartment agosa' at y fan, ac fe wnaeth dyn tal godi fyny ar ei draed, ac ar y munud hwnnw fe ddaeth Tom i gael y ticedi. A dyma'r dyn tal yn rhoi hwyth i Tom druan i mewn i'r compartment i ganol y lladron.
A'r hyn welon ni oedd dyn yn neidio oddi ar y sêt efo pastwn, yn taro Tom i lawr i'r llawr, ac ar yr un pryd, aeth pen-glin y dyn tal reit wrth fy sgwyddau, ac es i lawr.
Beth oedd ar fy meddwl i, oedd "beth ydan ni wedi neud i'r dynion yma iddyn nhw ein attackio ni?" Doeddan ni ddim wedi gwneud dim byd iddyn nhw.
Pan wnaethon nhw lusgo ni i'r fan, dyna pryd ffeindies i pam eu bod nhw wedi ymosod arnon ni. Roedd y bagiau mail yn agored ymhobman.
Neidiodd y dyn yma ar fy mhen a'n lluchio fi â mhen i lawr i ganol y mail bags a gwneud yn siŵr bod fy ngwyneb at y drws fel na fedrwn i weld beth oedd yn mynd ymlaen a phen-glin rhwng fy ysgwyddau. Wnaeth o fy rhwymo i fyny, dwy law tu nôl i nghefn a rhwng fy ngoesau.
Fe welais i nhw'n llusgo Tom i fewn, clymodd o i fyny, a dwi'n cofio roedd 'na waed yn llifo i lawr ei wyneb o a'i grys gwyn o i gyd, a dwi'n cofio dweud wrtho fo, "you buggers, you killed him" a'r cyfan ges i oedd "oh shut up" a'r benglin yn fy nghefn i.
Fe gathon nhw eu distyrbio cyn mynd i lle oeddan nhw eisio, gafon ni ddim gwybod yn iawn faint o arian gafon nhw y noson honno, ond rhyw £3,500 oedd o.
Roedd 'na bedwar 'di cael eu hanafu yn reit ddrwg a daeth yr ambiwlans yn Hemel Hempstead, a glanhau'r gwaed a rhwymo eu pennau.
Roeddan nhw am i Tom fynd i'r ysbyty yn y fan honno, ond roedd o eisiau mynd adre, ac o'n ni'n falch o gyrraedd Caergybi achos oedd y gwaed yn dod trwy ei bandages o. Aeth yn syth i'r ysbyty.
Ar ôl hynny oedd 'na dditectifs o Lundain yn fy nhŷ i, i gael statements ac oedd rhaid i Tom a finna fynd i'r stesion yn Hemel Hempstead i identification parade.
Doedd hwnna ddim yn brofiad neis. Chwech o ddynion o'ch blaen a chithau yn mynd efo'r ditectif, edrych i wynebau'r chwech ohonyn nhw. Doeddan ni ddim wedi adnabod un o'r chwech wrth lwc.
Pan ddigwyddodd y Great Train Robbery ym mis Awst fe wnaethon nhw ddangos lluniau ar y teledu, a dyma fi'n dweud wrth y wraig, "'r'argian, rhain oedd efo fi, hwn oedd y dyn yn sefyll wrth y drws."
Jimmy White oedd o - wnaethon nhw gyfadde hynny wedyn.
Cyhoeddodd Arwel Owen, mab Howel Owen, llyfr am yr hanes - The Forgotten Train Robbery: The Guard's Story, er mwyn tynnu sylw at y digwyddiad lle anafwyd ei dad a thri arall ar y noson honno yn Chwefror 1963.
Hefyd o ddiddordeb: