Lle oeddwn i: Angharad Mair a 30 mlynedd o Heno
- Cyhoeddwyd
Ym mis Medi 1990, cychwynnodd rhaglen gylchgrawn newydd Heno ar S4C. Roedd Angharad Mair yn cyflwyno ar y noson gyntaf. Bellach mae'n olygydd y gyfres ac yn dal i gyflwyno'n wythnosol.
Wrth i'r gyfres ddathlu 30 mlynedd, mae rhaglenni arbennig, Heno Aur, yn cael eu darlledu ar S4C yn dangos clipiau archif dros y blynyddoedd.
Yma, mae Angharad Mair yn cofio'r noson gyntaf honno yn cyflwyno gyda Siân Thomas, Iestyn Garlick a Glynog Davies, ac yn trafod sut mae'r gyfres wedi esblygu dros y tri degawd diwethaf:
O'n i newydd adael cyflwyno rhaglen Newyddion y BBC a daeth y cyfle i gyflwyno Heno, oedd yn rhaglen gylchgrawn fyw. Roedd hyn yn newydd iawn ar y pryd, roedd hi'n torri tir newydd.
O'n i'n lwcus achos roedd y cwmni yn chwilio am gyflwynwyr o'r gorllewin yn fwy na dim - ac felly ro'n i, Siân a Glynog yn ffitio i'r dim.
Ethos y rhaglen oedd denu gwylwyr oedd ddim fel arfer yn gwylio S4C, yn enwedig yn ardal Abertawe a'r cymoedd, ardal gyda nifer fawr o siaradwyr Cymraeg.
Roedd y noson gyntaf honno yn gyffrous. Dwi'n cofio roedd y pedwar ohonon ni yn cyflwyno ac o'n ni i gyd yn nerfus iawn ond roedd lot o gyffro yn y stiwdio.
Roedden ni'n darlledu o ganol dinas Abertawe, a dwi'n cofio ein bod ni wedi dweud hynny yn y rhaglen gyntaf honno, roedd hynny'n bwysig. Roedd y Brodyr Gregory yn canu ac roedd Ieuan y garddwr yna o'r cychwyn un hefyd.
'Cyfnod hapus iawn'
Roeddwn i a Siân Thomas yn byw rownd y gornel i'n gilydd yng Nghaerdydd. Roedd Siân wedi bod yn gweithio fel cyflwynydd ar S4C a fi ar Newyddion, a'n llwybrau heb groesi rhyw lawer. Ond o hynny 'mlaen fe ddaethon ni'n ffrindiau da.
Roedd yn gyfnod cyn gŵr a phlant i fi, ac roedd y lle gwaith yn lle cartrefol iawn a'r criw cyfan yn cymysgu yn broffesiynol ac yn gymdeithasol. Roedd yn gyfnod hapus iawn yn fy mywyd.
Y newid mwya' i'r rhaglen rhwng y dechre a nawr yw mai dim ond pedair sianel oedd bryd hynny. Hefyd, yn y dechrau roedd hi'n benderfyniad, o safbwynt iaith y rhaglen, os oedd gair Cymraeg yn anodd, o'n ni'n defnyddio yr un Saesneg.
Roedd llawer o westeion yn dod i mewn oedd ddim yn siarad Cymraeg, dwi'n cofio gwleidyddion fel John Redwood, Peter Hain, hefyd Arthur Scargill ac Esther Rantzen. Ond mae hynna wedi newid bellach.
Papur bro cenedlaethol
Mae'r rhaglen wedi esblygu dros y blynyddoedd, wrth i ddarlledu esblygu, ac erbyn hyn mae nifer yn dweud bod Heno fel papur bro cenedlaethol yn rhoi llais i elusennau a chymdeithasau, rhoi llwyfan i gantorion ac i unrhyw un yng Nghymru sy'n gwneud rhywbeth. Dyna ein rheswm ni dros fod, sy'n wahanol (i'r rheswm) dros greu Heno yn y lle cyntaf.
Wrth fynd nôl trwy hen raglenni, mae edrych ar sut oedd y ffasiwn bryd hynny mor rhyfedd. Roedd Siân a fi'n gwisgo lot o siacedi a siwmperi gyda shoulder pads a sgide fflat.
Dwi'n meddwl mai dylanwad y Dywysoges Diana oedd hynny ar ffasiwn y pryd, roedd hi wedi gwneud gwisgo sgidiau fflat yn ffasiynol. Dwi wedi cadw dillad Heno i gyd hyd heddiw.
Y gwylwyr yw popeth, mae'r cyswllt yna yn hollbwysig, ac yn ystod y cyfnod yma o'r coronafeirws, mae hynny wedi digwydd fwy, gan fod pobl yn methu gweld ei gilydd, ac yn anfon cyfarchion trwy'r rhaglen.
Mae Heno yn llwyddo i wneud eitemau lleol o ddiddordeb cenedlaethol, a dwi'n credu bod rhaglen fel Heno ond yn gweithio mewn gwlad fach fel Cymru, oherwydd mae gyda ni gyd, o wahanol ardaloedd, ddiddordeb yn ein gilydd.
Hefyd o ddiddordeb: