Drakeford wedi gorfod gadael ei gartref yn sgil y feirws

  • Cyhoeddwyd
Mark Drakeford

Mae Prif Weinidog Cymru wedi datgelu y bu'n rhaid iddo symud o'i gartref am fod aelod o'i deulu yn cysgodi rhag y coronafeirws.

Dywedodd Mark Drakeford: "Dwi ddim wedi bod yn byw yn fy nhŷ fy hun trwy'r holl gyfnod yma, achos bod yna bobl eraill sydd wedi bod â chyflyrau mwy difrifol ac roedd angen i fi beidio â bod yn unrhyw fath o berygl iddyn nhw."

Ond y profiad anoddaf yn bersonol iddo meddai oedd delio gyda'r "gor-bryder sydd yng nghefn pen rhywun, ceisio cael cydbwysedd o'r holl bethau sydd rhaid i rywun wneud."

Fe gafodd aelodau o'i deulu y feirws, meddai ,a dywedodd mai un o'r pethau anoddaf dros y misoedd diwethaf oedd ceisio cydbwyso gwaith gyda phryder am ei anwyliaid.

"Rwy'n gweithio rhan fwyaf o'r amser. Felly mae cydbwyso gofynion y bobl chi'n agos atyn nhw a gwybod yr hyn maen nhw yn mynd trwyddo yn ogystal â'r holl bethau mae'n rhaid i chi wneud- mae'r rheina yn ddyddiau anodd."

Y pandemig yn 'ddi-baid'

Ni aeth unrhyw aelod o'r teulu yn ddifrifol wael, meddai.

Dywedodd bod delio gyda'r pandemig yn "ddi-derfyn" a "bod yna benderfyniadau pwysig i'w gwneud bob diwrnod o'r wythnos".

Mae'n gysgwr da yn gyffredinol meddai, "ond rydych chi weithiau yn canfod eich hun yn deffro yn y nos, yn mynd o fod yn cysgu yn drwm i fod yn hollol effro mewn eiliad.

"A'r hyn sydd ar eich meddwl chi yw'r penderfyniadau anodd iawn yna sydd yn rhaid i chi eu gwneud."