Covid-19: Un farwolaeth a 7 prawf positif newydd

  • Cyhoeddwyd
Profion Covid-19Ffynhonnell y llun, PA Media

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cofnodi un farwolaeth newydd o ganlyniad i Covid-19, gan ddod a chyfanswm y marwolaethau i 1,541.

Cafodd 7 yn rhagor o achosion eu cofnodi, sy'n golygu bod 15,946 wedi cael prawf positif ers mis Mawrth.

Cafodd 13 achos positif a gafodd eu cynnal yng Nghymru, ond eu prosesu yn Lloegr, eu cadarnhau hefyd, gan fynd â'r cyfanswm o'r ffynhonnell honno i 1,049.

Ffigyrau dyddiol 11 Gorffennaf

Fe gadarnhaodd ICC hefyd bod yr achosion sy'n gysylltiedig â gweithlu Rowan Foods yn Wrecsam yn parhau'n weithredol, ond bod nifer yr achosion sy'n cael eu cofnodi wedi arafu'n sylweddol.

"Yng nghyfarfod y Tîm Rheoli Digwyddiadau ddoe (dydd Gwener 10 Gorffennaf), cofnodwyd tri achos positif pellach o'r haint, sy'n gwneud y cyfanswm sy'n gysylltiedig â'r achosion yn 305", meddai'r datganiad.

"Rydyn ni eisiau rhoi sicrwydd i'r gweithlu ac i boblogaeth ehangach Wrecsam bod yr achosion rydyn ni wedi'u canfod yn union fel byddem yn ei ddisgwyl pan mae trefn brofi gadarn, gyda ffocws, ar waith.

"Nid oes unrhyw dystiolaeth bod yr haint yn seiliedig yn y ffatri."