'Rhaid peidio dychwelyd i'r hen drefn ar y Sul'
- Cyhoeddwyd
Wrth i eglwysi a chapeli yng Nghymru gael yr hawl i ailagor ar gyfer gwasanaethau ddydd Sul nesaf, dywed rheithor Y Drenewydd nad yw hi'n dymuno mynd yn ôl i'r un drefn a oedd yn bodoli cyn y cyfnod clo.
"Mae'r cyfnod clo yma," meddai'r Parchedig Nia Wyn Morris, "wedi agor drysau newydd sbon."
"Fel rheithor dwi wedi cael perthynas newydd gydag asiantaethau eraill, gwirfoddolwyr, unigolion ac efo'r dre a bob dydd Sul bellach ry'n efo'n gilydd yn darparu cinio i dros 70 o bobl.
"Covid-19 sy'n gyfrifol bod hyn wedi digwydd ond mewn gwirionedd roedd yna angen i hyn ddigwydd cynt - Covid sydd wedi dangos i ni maint yr angen a allwn ni ddim mwyach stopio'r cynllun gwych yma.
Darparu cinio i bobl unig
"Mae nifer o'r bobl sy'n derbyn y cinio wir ei angen o - mae nhw'n unig a dydyn nhw ddim wedi cael cinio dydd Sul go iawn ers talwm," meddai.
Ychwanegodd: "I ddweud y gwir dwi'n meddwl bydd pobl yn disgwyl y bydd pethau yn newid - mae'r gwasanaethau ar y we bellach yn fyrrach ac yn fwy slic ac mae pobl yn mwynhau.
"Ydan ni'n mynd i stopio'r cynllun darparu cinio er mwyn cael gwasanaeth awr ar y Sul - wel na bydd yn rhaid i ni addasu rywsut, addasu pob dim yn wir.
"Efallai mai'r dyfodol yw cael gwasanaeth cynnar yma yn yr ysgol lle mae'r bwyd yn cael ei ddarparu - mae'n bwysig bod y bobl ry'n wedi ymwneud â nhw yn y cyfnod clo yn parhau i fwynhau ein cyfeillgarwch.
"Dan ni wedi canfod angen pobl yn y cyfnod hwn a rhaid i ni barhau i ddiwallu'r angen hwnnw rywsut - mae'r cyfnod clo yma wedi fy ngwneud i edrych ar bethau o'r newydd - rhaid peidio mynd yn ôl i'r drefn arferol ar unrhyw gyfrif."
Angen asesiad risg
Mae eglwysi yng Nghymru yn cael ailagor ar gyfer addoliad cyhoeddus o'r wythnos nesaf (Sul 19 Gorffennaf) ymlaen wedi i Lywodraeth Cymru lacio'r cyfyngiadau ymhellach brynhawn Gwener.
Mae Cytûn (Eglwysi ynghyd yng Nghymru) a'r Eglwys yng Nghymru wedi dweud eu bod yn croesawu'r newyddion ond yn ychwanegu y bydd canllawiau pellach yn cael eu dosbarthu ddechrau wythnos nesaf.
Ar gyfer addoliad cyhoeddus bydd yn rhaid sicrhau fod pellter o ddau fetr rhwng pobl a "sicrhau protocolau digonol ar gyfer hylendid a glanhau".
Bydd yn ofynnol hefyd i eglwysi a chapeli gwblhau asesiad risg cyn agor eu drysau.
Bydd yr ymateb i agor yr eglwysi ar Bwrw Golwg am 12.30.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2020