Plaid Brexit i ymgyrchu i 'ddiddymu'r Senedd'

  • Cyhoeddwyd
Mark Reckless
Disgrifiad o’r llun,

"Mae datganoli wedi mynd cymaint ymhellach nac oedd pobl yn ei feddwl""meddai Mark Reckless, arweinydd Plaid Brexit yn y Senedd

Bydd Plaid Brexit yn ymgyrchu yn etholiad Senedd Cymru y flwyddyn nesaf i gael gwared ar y system ddatganoli bresennol.

Dywedodd Mark Reckless, arweinydd grŵp y blaid yn y Senedd, fod "datganoli wedi mynd cymaint ymhellach" nag yr oedd rhai pobl yn credu y byddai.

Mae'n cynnig system lle mae prif weinidog yn cael ei ethol yn uniongyrchol ac yn cael gwared ar aelodau'r Senedd.

Awgrymodd arolwg barn diweddar fod tua 22% o bobl yn cefnogi diddymu Senedd Cymru.

Ond mewn cwestiwn amlddewis, cafwyd y lefel uchaf o gefnogaeth i adael yr drefn fel ag y mae (24%), ac yna roedd 20% yn cefnogi rhoi mwy o bwerau i'r Senedd ac 16% o blaid annibyniaeth i Gymru.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Adam Price AS fod y datblgiadau dros y misoedd diwethaf wedi dangos pwysigrwydd gael Llywodraeth yng Nghymru.

Ar raglen Politics Wales ar BBC Cymru fe wrthododd arweinydd Plaid Cymru honiadau Mr Reckless, gan ddweud fod dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth pobl o ddatganoli ar "uchel tu hwnt" o ganlyniad i'r pandemig coronafirws.

Fe wfftiodd Adam Price ymgyrch Plaid Brexit i ddileu'r system ddatganoli fel ymgais i droi Cymru "yn orllewin Lloegr".

"Beth yw neges y Blaid Brexit yn hyn o beth? Nid diddymu ein democratiaeth yn unig mohono, mae'n dileu Cymru," meddai Mr Price.

"A oes unrhyw un o ddifrif, pan edrychwn yn ôl ar y tri mis diwethaf, ar y dull mwy gofalus, rhesymol, meddylgar y mae Llywodraeth Cymru wedi'i ddangos yn ystod y misoedd diwethaf o'i gymharu â'r polisi di-hid, y polisi camweithredol o ymbalfalu ei ffordd trwy'r argyfwng ein bod ni wedi gweld gan Boris Johnson, ydyn ni wir eisiau cymryd y pwerau sydd gennym i amddiffyn ein pobl a'u rhoi i Rif 10 Downing Street o dan yr amgylchiadau hyn? Ddim o gwbl. "

Dywedodd y cyn-brif weinidog Carwyn Jones fod y syniad yn dangos na all Plaid Brexit "ddiodde'r syniad o Gymru fel cenedl."

Wrth ysgrifennu ar Twitter, dywedodd AS Llafur Pen-y-bont ar Ogwr: "Wel, roedden nhw bob amser yn genedlaetholwyr Lloegr. Mae'r Alban yn cael Senedd, Lloegr yn cael Senedd, Gogledd Iwerddon yn cael Senedd tra bod Cymru'n cael Maer.

"Cymaint am barchu canlyniad refferenda [refferendwm datganoli 1997 a 2011] ond gadewch inni beidio ag anghofio mai drama yw hon mewn gwirionedd i gael ei hailethol i'r Senedd trwy apelio at leiafrif, yn y gobaith o gael uwch na 5% yn ei rhanbarth", ychwanegodd.

Gwneud pethau'n wahanol yng Nghymru

Wrth siarad ar yr un rhaglen, dywedodd Mr Reckless o dan ei gynlluniau y byddai ASau Cymru yn craffu ar brif weinidog a fyddai'n cael ei ethol yn uniongyrchol.

Fe gosodd y cwestiwn beth oedd gwerth cael y Senedd a'i haelodau yn ychwanegol at ASau yn San Steffan.

"Mae llawer o bobl nad ydyn nhw wedi ymgysylltu â gwleidyddiaeth ddatganoledig bellach yn gweld y pwerau sydd gan y lle hwn, a byddai'n well gan lawer o'r bobl hynny gael eu llywodraethu ar sail y DU yn hytrach na chael pethau wedi'u gwneud yn wahanol yng Nghymru dim ond er ei fwyn, fel sydd wedi bod yn wir o dan Mark Drakeford, "meddai.

Y grwp o bedwar AS ym Mae Caerdydd ydy'r grwp cynrychiolaeth mwyaf gan y blaid yn holl wledydd y Deyrnas Unedig gan nad oes gan y blaid aelodau o Senedd Ewrop (ASEau) mwyach yn dilyn penderfyniad Prydain i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Ail-frandio

Dywedodd Mr Reckless ei fod yn ymgynghori gydag arweinydd y blaid, Nigel Farage, ynglyn a phenderfyniadau allweddol, ond nad oedd Mr Farage yn eu rheoli "o bell".

Dywedodd nad oedd yn "diystyru" ail-frandio'r blaid, fel sydd wedi cael ei awgrymu.

Mae'r Blaid Brexit wedi bod yn feirniadol iawn o fesurau cloi Covid-19 Llywodraeth Cymru.

Pan ofynnwyd iddo a oedd yn credu y dylid cael cyfnod clo arall ledled Cymru, dywedodd: "Rydyn ni'n credu ei bod hi'n llawer gwell ymddiried ym marn pobl. Yr unigolyn sy'n gwybod orau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mr Reckless nad oedd arweinydd y blaid Nigel Farage yn rheoli'r grwp yn y Senedd ym Mae Caerdydd 'o bell'

"Rwy'n credu mai'r hyn y byddwn ni'n ei weld yw y bydd llawer mwy o bobl yn aros gartref.

"Ond y syniad eich bod chi'n dweud wrth bobl sawl gwaith y dylen nhw ymarfer corff ... Dwi ddim yn credu bod yna wyddoniaeth ar gyfer hynny."

Wrth ymateb i'r cwestiwn a fyddai'n erbyn cyfnod clo arall pe bai cynnydd serth mewn achosion coronafeirws, dywedodd: "Rwy'n credu y dylai hynny fod yn opsiwn olaf, a chredaf mai'r adeg pan mae gwir angen i chi wneud hynny ydy os yw heintiau yn cynyddu i'r graddau ei fod yn bygwth gallu ein gwasanaethau iechyd i ymdopi.

"Rwy'n credu bod hynny'n rheswm da dros gau ysgolion, dros ymyrraeth y llywodraeth, er mwyn atal hynny.

"Ond mewn gwirionedd, pan edrychwn yn ôl, golchi dwylo, pellter cymdeithasol a mwy o bobl yn aros gartref o'u gwirfodd arweiniodd at weld y gyfradd heintio yn dechrau gostwng, ac a alluogodd y gwasanaeth iechyd i ymdopi."

Mae BBC Politics Wales ar BBC One Wales am 1015 ddydd Sul, ac ar BBC iPlayer yn fuan ar ôl iddo gael ei ddarlledu.