Arestio pump o ddynion wedi ffrwgwd torfol ar draeth
- Cyhoeddwyd

Torfeydd ar draeth Aberogwr ar 25 Mehefin
Mae pump o bobl wedi eu harestio yn dilyn ffrwgwd torfol ar draeth ym Mro Morgannwg fis diwethaf.
Yn dilyn y digwyddiad yn Aberogwr ar 25 Mehefin fe rybuddiodd y prif weinidog, Mark Drakeford y byddai digwyddiadau o'r fath yn gallu gohirio llacio cyfyngiadau coronafeirws.
Mae Heddlu De Cymru bellach wedi cadarnhau bod pump o ddynion rhwng 19 a 25 oed wedi'u harestio a'u rhyddhau dan ymchwiliad.
Maen nhw'n dod o ardaloedd Porth, Glynrhedynog, Tonypandy, Tonyrefail a Phen-y-bont.
Cafodd dyn arall, 24 oed o Donyrefail, ei ryddhau dan ymchwiliad ar ôl mynd i orsaf heddlu o'i wirfodd.
Mae'r heddlu'n parhau i ymchwilio ac yn apelio am wybodaeth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mehefin 2020