'Ymyrraeth gynnar yn ffatri 2 Sisters wedi atal trychineb'
- Cyhoeddwyd
Mae'n bosib bod ymyrraeth gynnar yn achos ffatri gig Ynys Môn wedi atal trychineb posib ar yr ynys, meddai'r rhai a fu'n rhan o'r ymateb brys.
Mae ofnau o 'lockdown' lleol gorfodol wedi lleihau er gwaethaf nifer o achosion Covid-19 a gafodd lawer o gyhoeddusrwydd ychydig wythnosau yn ôl.
Ar ei anterth ym mis Mehefin cafodd 221 o achosion coronafeirws eu cysylltu i ffatri prosesu cig 2 Sisters yn Llangefni, gan arwain at gau'r ffatri am bythefnos, gyda phob aelod o staff i orfod hunan-ynysu yn y cyfamser.
Ond am fod Ynys Môn yn un o'r ardaloedd oedd yn peilota cynllun profi, olrhain a diogelu Llywodraeth Cymru, y gred yw bod hynny wedi chwarae rhan allweddol yn osgoi sefyllfa o ail-gyflwyno cyfnod clo lleol.
Mae'r strategaeth - sydd wedi'i chyflwyno ledled Cymru ers hynny - yn cynnwys profion helaeth ac, os bydd canlyniad positif, olrhain y bobl fu mewn cysylltiad â nhw i atal lledaeniad pellach.
Mae gweinidogion Llywodraeth Cymru ac arbenigwyr iechyd cyhoeddus yn honni y bydd defnyddio'r strategaeth yn effeithiol yn hanfodol wrth gynnwys y feirws dros yr wythnosau a'r misoedd i ddod wrth i'r cyfyngiadau gael eu lleddfu'n raddol.
Mae Dr Giri Shankar o Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dweud eu bod nhw'n gobeithio dod ag achos Llangefni i ben yn ffurfiol yn fuan.
Ychwanegodd bod y newyddion o'r achosion yn gysylltiedig â 2 Sisters wedi bod yn "gadarnhaol ers nifer o ddyddiau."
'Sefyllfa gryfach i ymateb'
Erbyn gwneud y penderfyniad i gau'r ffatri dros dro ar 18 Mehefin, roedd nifer yr achosion positif wedi codi i 58, cyn mynd heibio 200 yn y pen draw.
Ond ymhell cyn hynny, roedd cynnal mwy o brofion wedi caniatáu i dimau ar yr ynys ddechrau cysylltu a rhybuddio'r rhai a oedd wedi bod yn agos at bobl ag achosion positif, er mwyn atal y lledaeniad i'r gymuned.
Pwysleisiodd arweinydd Cyngor Ynys Môn bwysigrwydd cynnwys Ynys Môn yn y cyfnod peilot cychwynnol - un o chwech drwy Gymru, a'r unig un yn y gogledd.
"Heb os, roedd bod yn rhan o'r peilot cychwynnol yn ein rhoi mewn sefyllfa gryfach i ymateb," meddai Llinos Medi.
"Y gwir yw na fyddwn ni byth yn gwybod pa mor agos oeddan ni at y trosglwyddiad hwnnw yn ymledu i'r gymuned, a beth fyddai 24 awr arall o ddiffyg gweithredu wedi ei olygu."
Mae Aelod Senedd Môn wedi canmol gweledigaeth y cyngor am gymryd rhan yn y cynllun peilot.
Ond ychwanegodd Rhun ap Iorwerth fod gwersi i'w dysgu wrth symud ymlaen - gyda'r system yn debygol o fod gyda ni am gryn amser, o bosib nes bod brechlyn yn cael ei ddatblygu.
"Mae yna gwestiynau o ran cau'r ffatri yn ddigon cynnar, ond roedd yn amlwg ein bod ni'n wynebu sefyllfa beryglus iawn," meddai.
"Dwi wedi clywed sibrydion o bobl ddim yn hunan-ynysu pan ddylen nhw fod, ond mae'r ffaith ein bod ni bellach, bythefnos wedyn, yn gallu edrych ar y data a gweld bod dim 'spike' wedi bod yn y gymuned yn adrodd cyfrolau."
'Dangos bod hunan-ynysu yn gweithio'
Er ei fod yn meddwl ei bod hi'n "gamgymeriad" i ganiatáu gweithwyr i adael y safle heb gael eu profi, dywedodd Rhun ap Iorwerth fod y system brofi wedi cael effaith fawr ar gyfyngu'r lledaeniad.
"Y penderfyniad mawr a wnaed, er ella ddim cyn gynted ag y byddwn i wedi hoffi, oedd gofyn i'r holl weithwyr hunan-ynysu," meddai.
"Roedd pob aelod o staff o bosib wedi bod mewn cysylltiad ag achosion cadarnhaol yn barod, oherwydd natur ffatri o'r fath, a olygai fod cyfran fawr o'r olrhain eisoes wedi'i wneud.
"Dylai fod yn ddangosydd clir o lwyddiant ynysu, gan ei fod yn ddi-os wedi gweithio yma."
Dywed Aelod Seneddol Môn, Virginia Crosbie ei bod wedi croesawu penderfyniad y cyngor i oedi cyn agor ysgolion yr ynys ac yn canmol y cyd-weithio fuodd.
"Mae'n gydnabyddiaeth o ymdrechion 2 Sisters, y cyngor, staff y ffatri a'r rhai oedd yn ymwneud â delio gyda'r achosion fod y lledaeniad wedi cael eu atal mor dda," meddai.
"Heb y cydweithio yma, fe allai Môn fod wedi wynebu 'lockdown' lleol ar amser allweddol i'r diwydiant dwristiaeth.
"Byddai colli mwy o incwm drwy dwristiaeth wedi bod yn drychinebus i'r ynys."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd23 Mehefin 2020