'Dim camau pellach' yn erbyn yr AS Ceidwadol, Nick Ramsay
- Cyhoeddwyd
Mae gwaharddiad Aelod Senedd Ceidwadol blaenllaw wedi cael ei godi gan y blaid.
Cafodd Nick Ramsay ei wahardd dros dro ar ôl cael ei arestio a'i ryddhau heb gyhuddiad ym mis Ionawr.
Roedd eisoes wedi cael ailymuno â grŵp y Torïaid yn y Senedd.
Dywedodd y Ceidwadwyr ddydd Mercher na fyddai "unrhyw gamau pellach" yn cael eu cymryd yn ei erbyn.
Aeth Mr Ramsay â'i arweinydd yn y Senedd, Paul Davies, i'r llys i herio ei waharddiad fel AC grŵp Torïaidd.
Daeth y ddwy ochr i gytundeb ac fe gafodd Mr Ramsay ei adfer i'r blaid.
Ond roedd ei waharddiad fel aelod o'r blaid wedi aros yn ei le, tan heddiw.
Ym mis Chwefror dywedodd ei gyfreithiwr fod Mr Ramsay yn ystyried camau cyfreithiol pellach yn erbyn y blaid.
Mr Ramsay yw llefarydd cyllid grŵp Senedd y Torïaid, ac mae'n cadeirio'r pwyllgor cyfrifon cyhoeddus trawsbleidiol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd2 Ionawr 2020