Ymchwilio i farwolaeth 'sydyn ac anesboniadwy' bachgen 3 oed
- Cyhoeddwyd
Mae ymchwiliad yn cael ei gynnal yn dilyn marwolaeth "sydyn ac anesboniadwy" bachgen tair oed mewn tŷ yng Nghaerdydd.
Cafodd yr heddlu eu galw i'r tŷ yn ardal y Waun Ddyfal yn y brifddinas ddydd Llun, 29 Mehefin.
Fe gafodd dynes a phlentyn ifanc arall eu trin yn yr ysbyty yn dilyn y digwyddiad.
Mae BBC Cymru yn deall bod y teulu yn byw mewn cartref gafodd ei ddarparu drwy system gymorth ceiswyr lloches y Swyddfa Gartref.
Dyw hi ddim yn glir eto beth yw statws lloches y teulu.
Mae'r Swyddfa Gartref wedi dweud wrth BBC Cymru ei fod yn cydweithio a darparwyr y lloches ac awdurdodau eraill er mwyn cefnogi'r ymchwiliad.
Mae'r BBC yn deall bod gan y plentyn fu farw anableddau a'i fod yn un o efeilliaid. Roedd dan ofal ysbyty plant ym Mhrydain.
Neb wedi'i arestio
Yn ôl llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro: "Ry'n ni'n cydweithio â'r ymchwiliad ond yn methu gwneud sylw pellach ar hyn o bryd."
Mewn datganiad gan Heddlu De Cymru, dywedodd llefarydd: "Gallwn gadarnhau marwolaeth sydyn ac anesboniadwy plentyn ifanc mewn tŷ yng Nghaerdydd.
"Cafodd swyddogion eu galw i'r eiddo yn y Waun Ddyfal am 17:40 ar ddydd Llun, 29 Mehefin.
"Dydy achos y farwolaeth ddim wedi cael ei gadarnhau ac mae'r ymchwiliad yn parhau."
Does neb wedi'i arestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad, ac mae'r Swyddfa Gartref wedi cadarnhau eu bod yn ymwybodol o'r digwyddiad ac yn cydymdeimlo â'r teulu ac yn cydweithio â'r ymchwiliad yn llawn.
Mae disgwyl i gwest gael ei gynnal o fewn yr wythnosau nesaf.