Y Bencampwriaeth: Caerdydd 2-1 Derby County

  • Cyhoeddwyd
DathluFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Daeth Lee Tomlin i'r garfan ar y noson yn lle Will Vaulks

Roedd hon yn ornest bwysig yn ymgyrch yr Adar Gleisio i gael dyrchafiad o'r Bencampwriaeth, gyda Chaerdydd yn y chweched safle cyn y gêm - dim ond tri phwynt uwchlaw Derby County.

Daeth y gôl gyntaf wedi 17 munud o chwarae yn dilyn camgymeriad blêr gan chwaraewr canol cae Derby County, Jason Knight.

Fe geisiodd chwarae'r bêl yn ôl o hanner ffordd ei hanner ei hun, ond roedd Junior Hoilett wedi gweld ei gyfle gan daro'r bêl i gefn y rhwyd ar ôl mynd heibio i Kelle Roos.

Bu'n rhaid i Roos wneud arbediad pwysig er mwyn cadw gobeithion Derby'n fyw ychydig yn ddiweddarach, wrth i Lee Tomlin chwilio am gyfle i gynyddu mantais Caerdydd.

Enw da

Os oedd Jason Knight wedi cynnig cyfle hawdd i glwb y brifddinas fynd ar y blaen, yna fe fanteisiodd ar ei gyfle i adfer ei enw da wedi hanner awr o'r chwarae.

Louie Sibley oedd yn gyfrifol am greu'r cyfle i Derby, gan redeg yn nerthol drwy ganol y cae a darganfod Knight ar ochr y cwrt cosbi. Rhedodd Knight heibio i Alex Smithies, cyn plannu'r bêl yn y rhwyd.

Cyfartal oedd y sgôr ar yr hanner, gyda'r ddau dîm yn cystadlu i sicrhau'r fantais yn 45 munud cyntaf. Roedd Derby'n edrych yn gryf ar brydiau, ond roedd Caerdydd hefyd yn chwarae'n hyderus - gyda Tomlin yn disgleirio.

Dechreuodd Derby'n ddisglair wedi'r toriad, ond roedd ergyd Knight yn rhy uchel i boeni golwr Caerdydd, Alex Smithies, pan ddaeth eu cyfle gorau.

Tomlin yn disgleirio

Daeth ail gôl y noson i Gaerdydd wedi 58 munud o chwarae, gyda Lee Tomlin unwaith eto yn dangos ei allu.

Y tro yma, Wayne Rooney oedd yn gyfrifol am gamgymeriad costus Derby - gyda Tomlin yn bachu ar y cyfle - a'r bêl - o dan drwyn cyn chwaraewr rhyngwladol Lloegr.

Ffynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Roedd camgymeriad Wayne Rooney'n un costus i Derby ar y noson

Ychydig iawn o effaith gafodd Rooney ar y noson - gan gynnig ail gôl yr Adar Gleision ar blât - methodd a gwneud unrhyw argraff mewn gwirionedd.

Aeth Tomlin ar rediad nerthol i lawr yr asgell wedi cipio'r bêl, cyn ei tharo'n isel ac yn nerthol ar draws Kelle Roos a i'r rhwyd. 2-1 i Gaerdydd - a dyna'r canlyniad pan chwythodd y chwiban olaf.

Fe fydd Caerdydd yn llawn hyder yn dilyn y fuddugoliaeth hon, gyda'r clwb yn parhau yn y chweched safle, a gyda dau bwynt yn fwy na Millwall, sydd un safle'n is.