Dwy ddynes wedi marw mewn gwrthdrawiad yng Ngwynedd

  • Cyhoeddwyd
A487
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar yr A487 toc wedi 15:30 ddydd Mercher

Mae dau o bobl wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ger Garndolbenmaen yng Ngwynedd brynhawn dydd Mercher.

Ychydig wedi 15:30 cafodd y gwasanaethau brys eu galw yn dilyn adroddiadau fod car Volkswagen Polo coch wedi bod mewn gwrthdrawiad gyda lori felen rhwng Garndolbenmaen a Phenmorfa ar ffordd yr A487.

Er gwaethaf ymdrechion parafeddygon i'w hachub, bu farw'r fenyw oedd yn gyrru'r car a menyw oedd yn teithio gyda hi yn y fan a'r lle.

Bu'n rhaid cau'r ffordd am sawl awr ond mae bellach wedi ailagor. Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth.

'Colli dwy genhedlaeth o'r un teulu'

Dywedodd y cynghorydd lleol, Nia Jeffreys fod y digwyddiad yn "sioc mawr i'r gymuned" a'i bod hi'n "anodd iawn dychmygu colli dwy genhedlaeth o'r teulu'r un pryd."

"Mae cael trasiedi dwbl fel hyn yn ergyd fawr," meddai wrth raglen Post Cyntaf Radio Cymru.

"Mae honna'n lôn beryg, droellog. Dydan ni ddim yn gwybod yn iawn be ddigwyddodd wrth gwrs, ond mae'n reit amlwg i unrhyw un wrth edrych ar y rhan yna o'r lôn bod o'n reit beryg."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed yr heddlu fod lori felen yn rhan o'r gwrthdrawiad

Dywedodd Sarjant Emlyn Hughes o Uned Blismona Ffyrdd Heddlu'r Gogledd: "Gyda thristwch mae'r digwyddiad yn cael ei drin fel gwrthdrawiad traffig angheuol ac rydym yn meddwl am deulu'r rhai fu farw.

"Byddant nawr yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol. Rwy'n erfyn ar unrhyw un oedd yn llygad-dyst i'r gwrthdrawiad, neu unrhyw un oedd yn teithio ar hyd yr A487 ychydig cyn y gwrthdrawiad ac sydd efallai gyda lluniau dashcam i gysylltu.

"Rydym nawr angen darganfod beth ddigwyddodd, felly rydym yn gofyn i unrhyw un sydd gyda gwybodaeth allai fod o gymorth i'r ymchwiliad i gysylltu gyda ni ar frys."

Gall unrhyw un sydd gyda gwybodaeth am y digwyddiad gysylltu gyda'r Uned Blismona Ffyrdd drwy ffonio 101 gan ddefnyddio'r cyfeirnod Y100773.