Pasio mesur gwahardd anifeiliaid syrcasau teithiol

  • Cyhoeddwyd
LlewFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae mesur fydd yn gwahardd y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol yng Nghymru wedi ei basio gan y Senedd ddydd Mercher.

Unwaith y bydd yn derbyn Cydsyniad Brenhinol, fe fydd y gwaharddiad yn dod i rym ar 1 Rhagfyr.

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: "Bydd y Bil hwn yn mynd i'r afael â phryderon moesegol pobl ledled Cymru drwy wahardd y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol.

"Mae defnyddio anifeiliaid gwyllt i ddiddanu yn y ffordd yma yn hen ffasiwn - mae gan anifeiliaid gwyllt deimladau ac anghenion cymhleth, ac ni ddylent gael eu defnyddio fel dull o'n diddanu."

Elusen

Wrth ymateb i'r newyddion, dywedodd Claire Lawson, cyfarwyddwr cynorthwyol elusen yr RSPCA dros gysylltiadau allanol yng Nghymru: "Mae hwn yn ddiwrnod hanesyddol i anifeiliaid yng Nghymru - a'r syniad o anifeiliaid gwyllt yn cael eu defnyddio mewn syrcasau teithiol yn rhywbeth sydd yn y gorffennol bellach, unwaith ac am byth."

Ond nid pawb oedd yn cytuno.

Dywedodd Thomas Chipperfield, sy'n cael ei ddisgrifio fel y dofwr llewod olaf ym Mhrydain, fod y mesur yn un "gwrth-ryddfrydol".